Safonau Proffesiynol – Riportio Anfodlonrwydd A Chwynion yn Erbyn Ein Staff
Riportio anfodlonrwydd â gwasanaeth a gawsoch
Mae’r canllaw hwn yn nodi’r safonau gwasanaeth yr ydym yn anelu i’w cyrraedd pan fyddwch yn riportio anfodlonrwydd mewn perthynas ag unrhyw wasanaeth yr ydych wedi ei dderbyn. Os ydych yn dymuno riportio anfodlonrwydd yn hytrach na gwneud cwyn ynghylch swyddog neu aelod o staff, cliciwch yma.
Taflwch olwg dros y safonau ymddygiad proffesiynol canlynol yr ydym yn anelu i’w cyrraedd. (Cliciwch yma)
Mae pob aelod o staff Heddlu Dyfed Powys yn deall pwysigrwydd darparu gwasanaeth o’r radd flaenaf i’r cyhoedd, ond mae’n bosib y byddwch yn teimlo ar adegau nad yw ymddygiad swyddog/aelod o staff wedi cyrraedd y safon ddisgwyliedig, neu fod eu hymddygiad yn gyfystyr â chamymddwyn. Os digwydd hynny, mae gennych yr hawl i wneud cwyn.
Gwneud cwyn ynghylch ymddygiad swyddog neu aelod penodol o staff yr heddlu.
Beth allaf gwyno yn ei gylch?
Os ydych yn credu bod heddwas neu aelod o staff yr heddlu wedi ymddwyn mewn modd amhriodol neu annheg, mae gennych hawl i wneud cwyn.
Dylai pobl sy’n gweithio i wasanaeth yr heddlu ymddwyn yn briodol bob adeg. Mae’r disgwyliadau o ran ymddygiad heddweision a staff yr heddlu wedi’u nodi yn y safonau ymddygiad proffesiynol perthnasol. Mae’r disgwyliadau hynny’n cynnwys :
- Ymddwyn mewn modd Gonest a Chywir, gan ddangos Tegwch ac Amhleidioldeb
- Trin aelodau’r cyhoedd a’u cydweithwyr gyda pharch
- Peidio â chamddefnyddio eu pwerau a’u hawdurdod
- Gweithredu mewn modd nad yw’n dwyn anfri ar wasanaeth yr heddlu nac yn tanseilio hyder y cyhoedd yn y gwasanaeth.Os ydych chi’n teimlo bod rhywun sy’n gweithio i’r heddlu wedi methu â chyrraedd y safonau hyn, gallwch wneud cwyn. Ymdrinnir â’r mathau hyn o gwynion yn unol â Deddf Diwygio’r Heddlu 2002.
Mathau eraill o gwynion
Ystyrir cwynion yn ymwneud â pholisïau neu weithdrefnau’r heddlu yn gwynion Cyfarwyddyd a Rheoli. Gall y rhain gynnwys cwynion ynghylch y ffordd y mae’r heddlu’n cael ei redeg neu safonau plismona cyffredinol yn eich ardal leol. Ni ellir delio â’r cwynion hyn dan Ddeddf Diwygio’r Heddlu 2002.
Sut allaf wneud cwyn ynghylch ymddygiad unigolyn sy’n gweithio i’r heddlu?
Mae nifer o ffyrdd o wneud cwyn i Heddlu Dyfed Powys:
- Ewch i Orsaf Heddlu lle bydd Uwch Swyddog yn eich gweld
- Cysylltwch â’ch cyfreithiwr, eich A.S., Canolfan Gynghori neu asiantaeth gefnogi, y Gwasanaeth Prawf neu gallwch enwebu unigolyn i weithredu ar eich rhan (bydd angen cyflwyno caniatâd ysgrifenedig).
- Ysgrifennwch at yr Adran Safonau Proffesiynol, Heddlu Dyfed-Powys, Blwch Post 99, Llangynnwr, Sir Gaerfyrddin, SA31 2PF.
- Ffoniwch – 101 a gofyn am yr Adran Safonau Proffesiynol
- Anfonwch e-bost - psd@dyfed-powys.pnn.police.uk
- Ffurflen ar-lein - llenwch ein ffurflen gwyno a fydd yn cael ei hanfon drwy e-bost at yr Adran Safonau Proffesiynol
- Cysylltwch â Chomisiwn Annibynnol Cwynion yr Heddlu (IPCC) - Independent Police Complaints Commission, 90 High Holborn, London, WC1V 6BH. Rhif ffôn 0300 020 0096, cyfeiriad e-bost: enquiries@ipcc.gsi.gov.uk. Gwefan: www.ipcc.gov.uk. For advice in other languages on the IPCC site, click here.
Gwneud eich cwyn
Bydd eich cwyn yn cael ei gofnodi gan yr Adran Safonau Proffesiynol sy’n gyfrifol am gofnodi ac ymdrin â chwynion yn ymwneud ag ymddygiad swyddogion neu aelodau penodol o staff yr heddlu. Os yw eich cwyn yn ymwneud â swyddog o reng Prif Uwch-arolygydd neu is, yr Adran Safonau Proffesiynol fydd yn gwneud y penderfyniad ynghylch cofnodi’r gŵyn. Os yw eich cwyn yn ymwneud â Phrif Swyddog, dylech gyfeirio eich cwyn yn uniongyrchol at Awdurdod Heddlu Dyfed Powys, sy’n gyfrifol am ystyried cwynion felly. Mae’r Adran Safonau Proffesiynol yn hollol ar wahân i’r swyddogion neu’r aelodau staff y gwneir y cwyn amdanynt.
Pa fanylion ddylwn i eu cynnwys?yr hyn a ddigwyddodd
- pryd y digwyddodd
- pwy oedd yn gysylltiedig â’r mater
- yr hyn a ddywedwyd neu a wnaed
- a oedd unrhyw dystion heblaw chi a’r heddwas/aelod o staff yr heddlu
- manylion unrhyw ddifrod neu anaf
- pwy oedd yr heddwas/aelod o staff (os yn hysbys i chi)
- beth rydych chi’n cwyno yn ei gylch
- pa ganlyniad rydych chi’n ei geisio
- eich manylion cyswllt gan gynnwys cyfeiriad, rhif ffôn neu gyfeiriad e-bost os yw’n berthnasol.
Sut byddwch chi’n delio â’m cwyn?
Pan dderbynnir eich cwyn bydd yn cael ei asesu ac os caiff ei chofnodi fel cwyn am ymddygiad heddwas neu aelod o staff yr heddlu, byddwn yn delio â hi mewn un o ddwy ffordd.
Datrysiad Lleol
Mae Datrysiad Lleol yn ddull anffurfiol o ddatrys cwynion, sy’n galluogi’r Heddlu i ddysgu o’i gamgymeriadau a gwella’r modd rydym yn gwneud pethau. Dyma ddewis ddull llawer o bobl o ran delio â’u cwynion. Ni ellir defnyddio’r dull hwn i ddelio â’ch cwyn oni fyddwch chi wedi cytuno i hynny.
Os byddwch yn cydsynio i’ch cwyn gael ei thrin drwy gyfrwng datrysiad lleol, bydd rheolwr lleol yn trafod eich cwyn gyda chi ac yn llunio cynllun gweithredu yn ymwneud â’r materion a godwyd gennych.
Os, ar ddiwedd y Datrysiad Lleol, y byddwch yn anfodlon â’r broses, mae gennych yr hawl i apelio i Gomisiwn Annibynnol Cwynion yr Heddlu (IPCC). Os hoffech gael rhagor o wybodaeth, trowch at wefan yr IPCC.
Ymchwiliad Lleol
Os nad yw eich cwyn yn addas ar gyfer Datrysiad Lleol, bydd ymchwilydd yn cynnal ymchwiliad lleol. Bydd yr ymchwilydd fel arfer yn aelod o’r Adran Safonau Proffesiynol ond gallant hefyd ddod o’ch ardal blismona lleol.
Cewch wybod sut y bydd eich cwyn yn cael ei hymchwilio, pa gydweithrediad a ddisgwylir wrthych, ar ba sail y gwneir unrhyw benderfyniad a pha gamau gweithredu a gymrir ar ddiwedd yr ymchwiliad. Bydd y math o ymchwiliad yn dibynnu ar natur a difrifoldeb eich cwyn a’r canlyniad tebygol. Gall ymchwiliad amrywio o ymholiadau dros y ffôn a gwblheir mewn ychydig oriau i broses ehangach all gymryd nifer o fisoedd.
Gallwch apelio i’r IPCC os ydych yn anfodlon â chanlyniad ymchwiliad gan yr heddlu i’ch cwyn. Os hoffech gael rhagor o wybodaeth trowch at wefan yr IPCC (www.ipcc.gov.uk).
Apelio yn erbyn y modd y mae’r heddlu wedi ymdrin â’ch cwyn
Os ydych wedi gwneud cwyn yn erbyn yr heddlu a’ch bod yn anfodlon â’r modd yr ymdriniwyd â’r gŵyn, mae’n bosib y gallwch apelio i’r IPCC. Mae’r IPCC yn delio â 3 math o apêl.
- Apêl yn erbyn penderfyniad i beidio â chofnodi cwyn
- Apêl yn erbyn y broses datrysiad lleol
- Apêl yn erbyn ymchwiliad gan yr heddlu i’ch cwyn
Os hoffech gael rhagor o wybodaeth trowch at wefan yr IPCC.
Rôl Comisiwn Annibynnol Cwynion yr Heddlu (IPCC)
Gellir anfon cwynion ynghylch ymddygiad pobl sy’n gweithio i’r heddlu at yr IPCC, ond nid oes gan yr IPCC y pŵer i gofnodi cwynion. Os byddwch yn gwneud cwyn i’r IPCC, rhaid, yn unol â’r gyfraith, anfon y cwyn yn ôl at Heddlu Dyfed Powys er ystyriaeth. Oherwydd y niferoedd eithriadol o uchel o gwynion a anfonir at yr IPCC, gall gymryd nifer o wythnosau cyn y bydd cwyn yn cael ei hanfon ymlaen at Heddlu Dyfed Powys. Felly, i gyflymu’r broses o ymdrin â’ch cwyn, fe’ch cynghorir i gyflwyno eich cwyn i Heddlu Dyfed Powys gan ddefnyddio un o’r dulliau a nodir uchod.
Mae’r IPCC hefyd yn ymchwilio i’r cwynion a’r cyhuddiadau mwyaf difrifol o gamymddwyn a wneir yn erbyn heddluoedd yng Nghymru a Lloegr. Cyfeirir y cwynion hyn at yr IPCC gan yr heddluoedd eu hunain. Gall yr IPCC benderfynu defnyddio ei ymchwilwyr ei hun i ymchwilio i ddigwyddiad (Ymchwiliad Annibynnol). Fel arall, gall yr heddlu ymchwilio i’r mater dan reolaeth neu oruchwyliaeth yr IPCC. Dim ond digwyddiadau sy’n achosi lefel uchel iawn o bryder i’r cyhoedd bydd yr IPCC yn ymchwilio iddynt, er enghraifft, marwolaeth unigolyn yn y ddalfa neu’n dilyn cyfnod yn y ddalfa.
Ymhle y gallaf gael rhagor o wybodaeth ynghylch gwneud cwyn?
Gellir cael rhagor o wybodaeth ynghylch gwneud cwyn o wefan yr IPCC neu drwy ofyn am y daflen “Sut i wneud cwyn” sydd ar gael ymhob gorsaf yr heddlu neu o wefan yr IPCC.


