Dyfed Powys Police | Heddlu Dyfed Powys
Page Content Starts Here

Riportio Anfodlonrwydd â Gwasanaeth a gawsoch

Mae’r canllaw hwn yn nodi’r safonau
gwasanaeth yr ydym yn anelu i’w cyrraedd pan fyddwch yn riportio anfodlonrwydd mewn
perthynas ag unrhyw wasanaeth a gawsoch.

Os byddwch yn riportio eich anfodlonrwydd
dros y ffôn neu wyneb yn wyneb i aelod o staff, byddwn yn:

  • Cymryd manylion llawn y gwasanaeth neu’r cyswllt yr ydych yn
    anfodlon ag ef, gan gynnwys manylion unrhyw staff cysylltiedig.  Byddwn hefyd yn cymryd eich
    manylion cyswllt chi er mwyn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i chi am yr hyn
    sydd yn digwydd yn yr achos.  
     
  • Byddwn yn gwneud popeth o fewn ein gallu i ddatrys y mater pan
    fyddwch yn cyflwyno eich adroddiad
  • Os na fydd hynny’n bosib, bydd manylion eich adroddiad yn cael eu
    trosglwyddo i oruchwylydd. 
    Rhoddir enw’r goruchwylydd i chi.  
  • Bydd y goruchwylydd yn cysylltu â chi i drafod eich pryderon ac i
    esbonio’r camau y byddant yn eu cymryd i ddatrys y mater.

Os byddwch yn riportio eich anfodlonrwydd
drwy e-bost:

  • Bydd yr aelod staff fydd yn agor eich e-bost yn gwneud pob ymdrech
    i ddatrys y mater yn y man a’r lle. 
    Byddant yn anfon eu manylion i chi ac yn dweud pa gamau y maent yn
    bwriadu eu cymryd er mwyn datrys y mater.  
  • Os na fydd yr unigolyn hwn yn gallu datrys y mater, byddant yn
    trosglwyddo’r manylion i oruchwylydd. Byddwch yn derbyn e-bost i gadarnhau
    yr hyn sy’n digwydd.
  • Bydd y goruchwylydd yn cysylltu â chi i drafod eich pryderon ac i
    esbonio pa gamau y byddant yn eu cymryd i ddatrys y mater.  

Os byddwch yn riportio eich anfodlonrwydd
mewn llythyr: 

  • Byddwn yn anfon eich llythyr ymlaen i’r person mwyaf addas i
    ddatrys y mater. Byddwn yn anfon llythyr o gydnabyddiaeth i chi, yn nodi
    enw a manylion cyswllt yr aelod staff fydd yn delio â’r mater
  • Yna, bydd yr aelod staff a enwebwyd i ddatrys eich anfodlonrwydd yn
    cysylltu â chi i drafod eich pryderon ac i esbonio pa gamau y maent yn
    bwriadu eu cymryd er mwyn datrys y mater.

Pa fodd bynnag a ddefnyddir gennych i riportio
eich anfodlonrwydd, bydd y datrysiad yn broses ryngweithiol. Mae’n bosib weithiau
na fyddwn yn gallu datrys y mater mewn modd sy’n eich bodloni. Os felly, cewch
eglurhad manwl am yr amgylchiadau a arweiniodd at eich anfodlonrwydd, a byddwch
hefyd yn cael cyfle i drafod hyn gyda’r sawl sy’n delio â’ch achos.

Yn achos unrhyw adroddiad o anfodlonrwydd,
dylai’r sawl sy’n delio â’r mater anelu at ei ddatrys ymhen 14 diwrnod os oes
modd. Pan na fydd hynny’n bosib, byddwn yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i chi
ynghylch yr hyn sy’n digwydd.