Page Content Starts Here
Canmoliaeth a Gwaith Da
Mae hefyd yn braf clywed pan fyddwch yn credu bod swyddogion
neu staff wedi gwneud gwaith da. Fel rhan o gynllun sy’n weithredol yng Ngheredigion a Sir Benfro mae ein
swyddogion a’n staff yn rhoi cardiau Adborth i drigolion yn gofyn eu barn am safon
y gwasanaeth a gawsant mewn ymateb i’w cais am gymorth.
Rydym hefyd yn datblygu ffurflen ar-lein y gallwch ei
defnyddio i ddweud eich barn am wasanaeth a gawsoch mewn cysylltiad â throsedd
neu ddigwyddiad penodol.












