Safonau Ymddygiad Proffesiynol
Ar y 1af o Ragfyr 2008 cyflwynwyd Safonau Ymddygiad
Proffesiynol newydd i Swyddogion yr Heddlu ar draws Cymru a Lloegr.
Mae’r Safonau’n adlewyrchu’r disgwyliad sydd gan
wasanaeth yr heddlu a’n cymunedau lleol ynghylch y modd y dylai swyddogion yr
heddlu ymddwyn boed hwy ar ddyletswydd neu beidio. Mae hyder y cyhoedd yn yr
heddlu’n dibynnu ar swyddogion yr heddlu a staff yr heddlu’n dangos y lefelau
uchaf o ran safonau ymddygiad proffesiynol.
- Safonau Ymddygiad Proffesiynol
Swyddogion yr Heddlu
- Safonau Ymddygiad Proffesiynol Staff yr
Heddlu
Mae’r safonau’n cynnwys:-
Gonestrwydd ac Uniondeb
Awdurdod, Parch a
Chwrteisi
Cydraddoldeb ac
Amrywiaeth
Defnyddio Grym
Gorchmynion a
Chyfarwyddiadau
Gwaith a Chyfrifoldebau
Cyfrinachedd
Addasrwydd i Weithio
Ymddygiad sy’n Dwyn
Anfri
Herio/ Riportio
Ymddygiad Amhriodol
Mae’r Safonau a amlinellir uchod yn galluogi pawb i
wybod pa fath o ymddygiad gan swyddog yr heddlu neu aelod o staff yr heddlu
sy’n dderbyniol. Os ydych yn credu bod ymddygiad swyddog yr heddlu neu aelod o
staff yr heddlu’n annerbyniol, rydym yn eich gwahodd i gysylltu â ni.


