Mynediad at Wybodaeth y Ddeddf Gwarchod Data
Mynediad at Wybodaeth
Un o hawliau rhywun sy’n Destun Data.
Mae darpariaethau Mynediad at Wybodaeth y Ddeddf Gwarchod Data yn rhoi’r hawl i unigolyn gael copi o unrhyw ddata personol sydd wedi’i gadw amdanynt yn amodol ar rai eithriadau penodol.
Os, fel rhan o’ch cais i gael Visa i fynd i Awstralia, Canada, Seland Newydd neu Unol Daleithiau America bod angen i’r heddlu archwilio i’ch cefndir, gweler Tystysgrifau yr Heddlu (ACRO) at Bwrpas cael Visa.
Dywed Adran 7 Deddf Gwarchod Data 1998 bod gan rywun sy’n “destun data” (y sawl y mae’r data personol yn cyfeirio ato / ati) yr hawl, ar gais ysgrifenedig, i gael gwybod os oes unrhyw ddata personol amdano/amdani yn cael ei gadw neu ei brosesu.
Gwneud Cais
Os hoffech wybod pa wybodaeth (os o gwbl) sydd wedi’i chadw amdanoch gan Heddlu Dyfed-Powys, neu os hoffech gael cadarnhad p’un ai oes gennych hanes o erlyniadau /euogfarnau ai peidio, rhaid i chi lenwi ffurflen Mynediad at Wybodaeth.
Gallwch anfon ffurflenni cais ynghyd â’r ffi o £10 a phrawf adnabod addas (gweler y ffurflen am y manylion) yn ôl drwy’r post neu gallwch ei rhoi i mewn yn unrhyw Orsaf Heddlu yn ardal Dyfed Powys. Ni allwn ddefnyddio ffurflenni wedi’u cwblhau trwy’r e-bost.
Noder os gwelwch yn dda: Ar ôl derbyn eich cais, gall y broses o ddarparu’r wybodaeth ar eich cyfer gymryd hyd at 40 niwrnod.
Os ydych yn byw dramor ac angen prawf nad oes gennych gofnod troseddol, dylech wneud ymholiad Hawl i Wybodaeth gyda’r heddlu yn yr ardal lle’r oeddech yn byw ddiwethaf.


