Dyfed Powys Police | Heddlu Dyfed Powys
Page Content Starts Here

Cydraddoldeb ac Amrywiaeth

Mae Heddlu Dyfed-Powys wedi ymrwymo i sicrhau fod pob un person sy’n byw, gweithio neu’n ymweld ag ardal Dyfed-Powys yn derbyn gwasanaeth teg, sy’n cwrdd â’u hanghenion penodol ac nad yw’n gwahaniaethu ar sail eu cenedligrwydd, hil, lliw eu croen, ethnigrwydd, crefydd na’u tueddiadau rhywiol.

Rydym yn cydweithio â chymunedau lleol i geisio dileu digwyddiadau sy’n deillio o anoddefgarwch tuag at amrywiaeth ac sy’n arwain at droseddau casineb.

Dyletswydd Cydraddoldeb y Sector Cyhoeddus

Mae Dyletswydd Cydraddoldeb y Sector Cyhoeddus yn Adran 149 o Ddeddf Cydraddoldeb 2010, ac yn nodi bod:
 
(1) Rhaid i awdurdod cyhoeddus roi sylw dyladwy wrth arfer ei swyddogaethau i'r angen i wneud y canlynol:
 
(a) dileu gwahaniaethu, aflonyddu, fictimeiddio ac unrhyw ymddygiad arall sydd wedi ei wahardd gan y Ddeddf neu odani;
(b) hybu cyfle cyfartal rhwng personau sy'n rhannu nodwedd warchodedig berthnasol a phersonau nad ydynt yn ei rhannu; ac
(c) hybu perthynas dda rhwng personau sy'n rhannu nodwedd warchodedig berthnasol a phersonau nad ydynt yn ei rhannu.
 
Y nodweddion gwarchodedig yw: oed; anabledd; ailbennu rhywedd; beichiogrwydd a mamolaeth; hil; crefydd neu gred; rhyw; cyfeiriadedd rhywiol.
 
Ein hamcanion cydraddoldeb
Gwybodaeth sy’n berthnasol i Ddyletswydd Cydraddoldeb y Sector Cyhoeddus

Grwpiau Cydraddoldeb Cyflwyno Gwasanaeth

Mae’n ofynnol i bob un o’r pedair sir o fewn ardal Dyfed-Powys sefydlu Grŵp Cydraddoldeb Cyflwyno Gwasanaeth. Trefnir y grwpiau hyn gan yr Heddlu sy’n chwilio am gynrychiolwyr o’r grwpiau isod:

  • Pobl ifanc - 16 i 25 oed
  • Pobl oedrannus
  • Pobl ag anableddau
  • Pobl hoyw, lesbiaid, deurywiol a phobl drawsrywiol
  • Pobl o leiafrifoedd ethnig

Pwrpas y fforymau hyn yw sicrhau fod yr Heddlu yn clywed wrth y grwpiau hynny yn y gymuned sydd fel arfer yn cael eu tangynrychioli. Maent hefyd yn gyfle i drafod anghenion a datrys pryderon y gymuned.

Grŵp Ymgynghorol Annibynnol Heddlu ac Awdurdod Heddlu Dyfed-Powys

Mae’r Grŵp Ymgynghorol Annibynnol yn cynrychioli yn fras y cymunedau amrywiol a wasanaethir gennym o ran oed, rhyw, ailbennu rhywedd, anabledd, hil, crefydd neu gred, cyfeiriadedd rhywiol a’r iaith Gymraeg. Cynhaliwyd cyfarfod cyntaf Grŵp Ymgynghorol Annibynnol Heddlu ac Awdurdod Heddlu Dyfed-Powys ym mis Medi 2011.