Gwybodaeth sy’n berthnasol i Ddyletswydd Cydraddoldeb y Sector Cyhoeddus
Cytunodd Grŵp Amrywiaeth Cymru Gyfan, a gadeirir gan y Dirprwy Brif Gwnstabl Jackie Roberts (Arweinydd Cymdeithas Prif Swyddogion yr Heddlu dros Gydraddoldeb ac Amrywiaeth), bod y wybodaeth ganlynol sydd yn cael ei dal gan yr heddlu yn berthnasol i Ddyletswydd Cydraddoldeb y Sector Cyhoeddus:
- gwybodaeth am ddigwyddiadau a throseddau casineb sy’n cael eu riportio i ni;
- gwybodaeth am brosesau stopio a chwilio;
- gwybodaeth am droseddau treisgar a gyflawnir yn erbyn menywod;
- gwybodaeth am fodlonrwydd defnyddwyr;
- gwybodaeth am gwynion;
- gwybodaeth ystadegol am y swyddogion a’r staff yr ydym yn eu cyflogi.
Cefnogodd y Dirprwy Brif Gwnstabl Roberts benderfyniad y Grŵp i gyhoeddi’r wybodaeth uchod erbyn 31 Ionawr 2012, yn unol â Dyletswydd Cydraddoldeb y Sector Cyhoeddus.
Rydym wedi bod yn ymgynghori ynghylch ein blaenoriaethau cydraddoldeb ers mis Tachwedd 2011. Mae’r ddogfen yn esbonio sut yr ydym wedi defnyddio ymchwil a gwybodaeth am gydraddoldeb i benderfynu ar ein blaenoriaethau cyfredol ar gyfer cydraddoldeb. Gellir darllen neu lawrlwytho’r ddogfen yma.
Cyhoeddir gwybodaeth ynghylch troseddau a digwyddiadau casineb, prosesau stopio a chwilio, trais yn erbyn menywod, a bodlonrwydd defnyddwyr mewn adroddiad a gyflwynwyd i ‘Grŵp Hyder a Chydraddoldeb yr Heddlu’ ym mis Rhagfyr 2011. Mae’r data sydd ar gael ar hyn o bryd ar gyfer y cyfnod o Ebrill – Medi 2011. Gellir darllen neu lawrlwytho’r adroddiad yma.
Mae gwybodaeth ynghylch cwynion ar gael ar dudalen gwe ein Hadran Safonau Proffesiynol.
Gellir cael gwybodaeth sy’n cael ei dal gan ein Hadran Adnoddau Dynol am y Swyddogion a’r Staff yr ydym yn eu cyflogi yma.
Ar hyn o bryd, nid ydym yn dal data cyfraneddol mewn perthynas â’r holl nodweddion a ddiogelir dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010. Rydym yn dal data cyfraneddol ynghylch Rhyw, Tarddiad Ethnig, Anabledd, ac Oed mewn perthynas â nifer o’n gwasanaethau a’n harferion cyflogaeth. Mae data cyfraneddol ynghylch Cyfeiriadedd Rhywiol a Chrefydd neu Gred yn cael ei dal mewn perthynas â rhai o’n gwasanaethau a’n harferion cyflogaeth. Ar ôl derbyn cyngor gan y Gymdeithas Genedlaethol Heddlu Trawsryweddol yn 2008, penderfynom yn erbyn casglu data ynghylch aelodau o staff neu ddefnyddwyr gwasanaeth trawsryweddol. Mae trafodaethau’n cael eu cynnal ar hyn o bryd ynghylch a ddylid, a sut y dylid casglu data cyfraneddol mewn perthynas ag amrediad ehangach o wasanaethau ac arferion cyflogaeth, ac ar gyfer yr holl nodweddion a ddiogelir dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010. Byddwn yn ymgynghori eto ynghylch a ddylem gasglu data am ailbennu rhywedd ai peidio.












