Grŵp Ymgynghorol Annibynnol
Cynhaliwyd ail gyfarfod Grŵp Ymgynghorol Annibynnol Heddlu ac Awdurdod Heddlu Dyfed-Powys ym mis Ionawr 2012. Trafodwyd amcanion cydraddoldeb yr Heddlu ac Awdurdod yr Heddlu ar gyfer 2012 – 2016.
Mae’r Grŵp Ymgynghorol Annibynnol yn cynrychioli yn fras y cymunedau amrywiol a wasanaethir gennym o ran oed, rhyw, ailbennu rhywedd, anabledd, hil, crefydd neu gred, cyfeiriadedd rhywiol a’r iaith Gymraeg.
Mae’r broses recriwtio ar gyfer y Grŵp Ymgynghorol Annibynnol yn un teg a thryloyw. Gofynnir i’r ymgeiswyr gymryd rhan mewn trafodaeth grŵp er mwyn asesu eu haddasrwydd ar gyfer y rôl. Caiff pob ymgeisydd ei fetio hyd at Fetio Personél sydd heb fod yn Heddlu (NPPV) Lefel 2, yn unol â Pholisi Fetio Cenedlaethol ACPO
Bydd y Grŵp Ymgynghorol yn cyfarfod tair gwaith y flwyddyn ac yn gweithio o fewn cynllun cytunedig, gyda blaenoriaethau’n cael eu gosod gan Heddlu ac Awdurdod Heddlu Dyfed-Powys.


