Dyfed Powys Police | Heddlu Dyfed Powys
Page Content Starts Here

Gwybodaeth Amgylcheddol

Cyflwyniad

Mae’r Rheoliadau Gwybodaeth Amgylcheddol yn rhoi’r hawl i gael mynediad i wybodaeth amgylcheddol a gedwir gan awdurdodau cyhoeddus.  Gellir gwneud ceisiadau drwy lythyr, e-bost, ffôn neu yn bersonol.

Gellir cael rhagor o wybodaeth mewn perthynas â Rheoliadau Gwybodaeth Amgylcheddol ar wefan y Comisiynydd Gwybodaeth.

Gellir cyrchu’r Rheoliadau Gwybodaeth Amgylcheddol yma.

Gellir cyrchu Cyfarwyddeb 2003/4/EC y Senedd Ewropeaidd a’r Cyngor 28 Ionawr 2003 ar fynediad cyhoeddus i wybodaeth amgylcheddol ac yn diddymu Cyfarwyddeb y Cyngor 90/313/eec yma.

Swyddog Amgylcheddol yr Heddlu sydd â chyfrifoldeb dros faterion amgylcheddol ac arbed ynni, ac mae ef wedi’i leoli o fewn Adran Ystadau’r Heddlu.

Datgelu Gwybodaeth Amgylcheddol

Dan Reoliad 4 (1) (a) o’r Rheoliadau Gwybodaeth Amgylcheddol, mae’n ofynnol i awdurdodau cyhoeddus ‘…fod yn flaengar o ran sicrhau bod y wybodaeth ar gael i’r cyhoedd drwy ffyrdd electronig sydd yn hawdd eu cyrchu’. I’r perwyl hwn, bydd Heddlu Dyfed-Powys yn cyhoeddi nifer o ddogfennu sydd yn dod o dan y categori gwybodaeth amgylcheddol o fewn y tudalennau Rhyddid Gwybodaeth.

Gellir cael mynediad i wybodaeth amgylcheddol Heddlu Dyfed-Powys yma.

Yn amodol ar nifer o eithriadau, mae’n ofynnol i awdurdodau cyhoeddus gyflwyno gwybodaeth amgylcheddol pan wneir cais amdani. Isod, gweler manylion am sut y gellir cyflwyno cais am wybodaeth amgylcheddol i Heddlu Dyfed-Powys. Nod Heddlu Dyfed-Powys yw cyhoeddi ymatebion i geisiadau am wybodaeth amgylcheddol o fewn y Log Datgelu Rhyddid Gwybodaeth lle y gwnaed datgeliadau.

Os oes gennych unrhyw gwestiynau ynghylch cael gwybodaeth gan Heddlu Dyfed-Powys cysylltwch â’r Uned Rhyddid Gwybodaeth.

Gwneud Cais am Wybodaeth Amgylcheddol

Gellir gwneud cais am wybodaeth amgylcheddol naill ai yn llafar neu’n ysgrifenedig i unrhyw aelod o staff.  I hwyluso’r broses, gallwch gyflwyno eich cais trwy unrhyw un o'r dulliau a nodir isod.

Os ydych yn dymuno trafod eich cais cyn ei gyflwyno, mae croeso i chi gysylltu â’r Uned Rhyddid Gwybodaeth drwy ffonio 01267 222020 a gofyn am estyniad 23442 neu 01267 226596 (llinell uniongyrchol).

I wneud cais drwy lythyr, ysgrifennwch at:

Swyddog Rhyddid Gwybodaeth
Heddlu Dyfed-Powys
Pencadlys Heddlu Dyfed-Powys
Blwch Post 99
Llangynnwr
Caerfyrddin
SA31 2PF

I wneud cais drwy e-bost:

e-bostiwch: foi@dyfed-powys.pnn.police.uk

I wneud cais drwy ffacs:

Anfonwch ffacs i: 01267 222185

I wneud cais dros y ffôn:

Ffoniwch: 01267 226596

Ceisiadau Llafar

  • Er mwyn sicrhau cywirdeb ac effeithlonrwydd, bydd angen gwneud cofnod ysgrifenedig o unrhyw gais llafar.  Os byddwch yn dymuno gwneud cais yn bersonol, gallwch wneud hynny yn eich Gorsaf Heddlu leol, at sylw’r Swyddog Rhyddid Gwybodaeth.
  • Sicrhewch fod eich cais yn glir a dealladwy a byddwch mor benodol ag sy’n bosib ynghylch y wybodaeth  rydych yn ei cheisio.
  • Rhowch gyfeiriad y gallwn anfon unrhyw ymateb iddo (post neu e-bost).
  • Byddai’n gymorth mawr i’r Uned Rhyddid Gwybodaeth os gallech roi rhif ffôn cyswllt rhag ofn y bydd angen i ni gysylltu â chi.

Gweler gwefan y Comisiynydd Gwybodaeth os hoffech gael rhagor o wybodaeth ac arweiniad.