Cyflwyniad i’r Ddeddf
Cyflwyniad i’r Ddeddf
Daeth y Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 (y Ddeddf) i rym ar y 1af o fis Ionawr 2005. Gorfodir y Ddeddf gan y Comisiynydd Gwybodaeth, sef swydd sy’n cyfuno rheoleiddio’r Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth, Deddf Diogelu Data 1998 a Rheoliadau Gwybodaeth Amgylcheddol 2004. Gellir cael rhagor o wybodaeth ynghylch y Comisiynydd Gwybodaeth ar wefan Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth (ICO)
Mae gan unrhyw unigolyn sy’n gwneud cais i awdurdod cyhoeddus am wybodaeth yr hawl i gael gwybod a yw’r awdurdod cyhoeddus yn cadw’r wybodaeth honno, oni bai y gallai hynny arwain at ddatgelu gwybodaeth sydd wedi’i heithrio. Rhaid hefyd, yn amodol ar unrhyw eithriadau, rhoi’r wybodaeth honno i’r unigolyn.
Mae gan unigolion eisoes yr hawl dan Ddeddf Diogelu Data 1998 i gael gwybodaeth a gedwir amdanynt. O ran awdurdodau cyhoeddus, mae’r Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth yn estyn yr hawl hwn i ganiatáu’r cyhoedd i gael gweld pob math o wybodaeth a gedwir. Daeth hawl yr unigolyn i gael gwybodaeth i rym ar y 1af o fis Ionawr 2005.
Mae’r Ddeddf sy’n effeithio ar bob awdurdod cyhoeddus yn cynnwys dau ran:
- Cynllun Cyhoeddi
- Hawliau Cyffredinol i Weld Gwybodaeth
Cynllun Cyhoeddi (Adran 19)
Mae’r Cynllun Cyhoeddi yn cynnwys gwybodaeth y mae Heddlu Dyfed-Powys yn ymrwymo i’w ddarparu’n rhagweithiol a’i diweddaru. Bwriad y Cynlluniau Cyhoeddi yw annog awdurdodau cyhoeddus i fynd ati’n rhagweithiol i gyhoeddi mwy o’r wybodaeth a gedwir ganddynt, gyda’r nod o feithrin gonestrwydd a thryloywder.
Cyflwynwyd cynllun cyhoeddi enghreifftiol newydd ar y 1af o fis Ionawr 2009 gan Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth. Mae’r cynllun cyhoeddi newydd yn berthnasol i bob awdurdod cyhoeddus. Gellir cael rhagor o wybodaeth ynghylch y cynllun cyhoeddi enghreifftiol ar wefan y Comisiynydd Gwybodaeth: Model Publication Scheme
Mae’r cynllun cyhoeddi yn ymrwymo Heddlu Dyfed Powys i:
- Cyhoeddi neu ddarparu trwy rhyw ddull arall mewn modd rhagweithiol ac fel mater o drefn, gwybodaeth, gan gynnwys gwybodaeth amgylcheddol, a gedwir gan yr Heddlu, ac sy’n perthyn i’r dosbarthiadau gwybodaeth a gynhwysir yn y canllaw i wybodaeth y gellir ei gyrchu isod.
- Rhestru’r wybodaeth a gedwir gan yr Heddlu ac sy’n cael ei chynnwys yn y canllaw i wybodaeth, y gellir ei gyrchu isod.
- Cyhoeddi gwybodaeth neu ei darparu trwy rhyw ddull arall mewn modd rhagweithiol ac fel mater o drefn yn unol â’r datganiadau yn y cynllun.
- Pennu a chyhoeddi’r dulliau a ddefnyddir i sicrhau bod gwybodaeth benodol ar gael fel mater o drefn, gan ei gwneud hi’n hawdd i aelodau’r cyhoedd ei hadnabod a’i chyrchu.
- Adolygu a diweddaru’n rheolaidd unrhyw wybodaeth y mae’r Heddlu’n ei darparu dan ei gynllun cyhoeddi
- Creu rhestr o’r ffioedd a godir am gael gwybodaeth a ddarperir mewn modd rhagweithiol
- Sicrhau bod y cynllun cyhoeddi hwn ar gael i’r cyhoedd.
Fel rhan o’r cynllun cyhoeddi enghreifftiol, mae Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth wedi cynhyrchu nifer o ddogfennau diffinio. Gellir gweld dogfen ddiffinio gwasanaeth yr heddlu drwy ddilyn y cyswllt: Dogfen Ddiffinio – Gwasanaeth yr Heddlu
Mae’r ddogfen diffinio ar gyfer gwasanaeth yr heddlu’n nodi’r lleiafswm o ran y wybodaeth y mae’n ofynnol i’r Heddlu ei gyhoeddi. Os oes gennych unrhyw syniadau o ran y mathau o wybodaeth y dylai Heddlu Dyfed-Powys ystyried eu cyhoeddi’n rhagweithiol drwy gyfrwng y cynllun cyhoeddi, cyflwynwch eich awgrymiadau i’r Uned Rhyddid Gwybodaeth drwy anfon e-bost at:
neu, fel arall, gallwch ysgrifennu at yr:
Uned Rhyddid GwybodaethHeddlu Dyfed-Powys
Blwch Post 99
Llangynnwr
Caerfyrddin
SA31 2PF
Bydd yr Uned Rhyddid Gwybodaeth yn ystyried pob awgrym a dderbynnir.
Canllaw i Wybodaeth
Mae’n ofynnol i Heddlu Powys gyhoeddi canllaw i wybodaeth. Gallwch weld y canllaw yma: Canllaw i Wybodaeth Heddlu Dyfed-Powys
Gwneud Cwyn
Os byddwch yn dymuno gwneud cwyn ynghylch Cynllun Cyhoeddi Heddlu Dyfed-Powys, gellir cyflwyno cwynion i’r Uned Rhyddid Gwybodaeth yn y cyfeiriad canlynol:
Uned Rhyddid GwybodaethHeddlu Dyfed-Powys
Blwch Post 99
Llangynnwr
Caerfyrddin
SA31 2PF
Ffôn: 0845 330 2000
Llinell Uniongyrchol: 01267 226596
E-bost: FOI@dyfed-Powys.pnn.police.uk
Bydd unrhyw gwynion yn cael eu hadolygu yn unol â Phroses Apêl Rhyddid Gwybodaeth Heddlu Dyfed-Powys, y gellir ei gweld isod: Proses Apêl Rhyddid Gwybodaeth
Hawl Cyffredinol i Wybodaeth (Adran 1)
Mae Adran 1 o’r Ddeddf yn rhoi hawl cyffredinol i weld gwybodaeth a gedwir gan awdurdodau cyhoeddus. Mae’n caniatáu i unrhyw un yn y byd wneud cais am wybodaeth dan y Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth. Gallwch gael y manylion ynghylch sut i wneud cais yma: Gwneud cais am wybodaeth
Gwneud Cwyn
Os byddwch yn anfodlon â’r modd y mae Heddlu Dyfed Powys wedi ymdrin â’ch cais am wybodaeth, neu os ydych yn credu nad yw’r Heddlu wedi darparu’r wybodaeth y mae gennych hawl i’w chael, gallwch wneud cais am adolygiad mewnol o’ch cais. Gellir gwneud hyn drwy gysylltu â’r Uned Rhyddid Gwybodaeth:
Uned Rhyddid GwybodaethHeddlu Dyfed-Powys
Blwch Post 99
Llangynnwr
Caerfyrddin
SA31 2PF
Ffôn: 0845 330 2000
Llinell Uniongyrchol: 01267 226596
E-bost: FOI@dyfed-Powys.pnn.police.uk
Bydd pob cwyn yn cael ei adolygu yn unol â Phroses Apêl Rhyddid Gwybodaeth Heddlu Dyfed-Powys y gellir ei gweld isod: Proses Apêl Rhyddid Gwybodaeth
Rheoliadau Gwybodaeth Amgylcheddol
Gellir gwneud cais am wybodaeth amgylcheddol a gedwir gan yr Heddlu yn unol â’r Rheoliadau Gwybodaeth Amgylcheddol. Gellir cael rhagor o wybodaeth ynghylch sut i wneud cais am wybodaeth amgylcheddol yma: Gwneud cais am wybodaeth amgylcheddol
Gwneud Cwyn
Os byddwch yn anfodlon â’r modd y mae Heddlu Dyfed Powys wedi ymdrin â’ch cais am wybodaeth dan y Rheoliadau Gwybodaeth Amgylcheddol, neu os ydych yn credu nad yw’r Heddlu wedi darparu gwybodaeth y mae gennych hawl i’w chael, gallwch wneud cais am adolygiad mewnol o’ch cais. Gellir gwneud hyn drwy gysylltu â’r Uned Rhyddid Gwybodaeth:
Uned Rhyddid GwybodaethHeddlu Dyfed-Powys
Blwch Post 99
Llangynnwr
Caerfyrddin
SA31 2PF
Ffôn: 0845 330 2000
Llinell Uniongyrchol: 01267 226596
E-bost: FOI@dyfed-Powys.pnn.police.uk
Bydd pob cwyn yn cael ei adolygu yn unol â Phroses Apêl Rhyddid Gwybodaeth Heddlu Dyfed-Powys y gellir ei gweld isod: Proses Apêl Rhyddid Gwybodaeth
Ni fydd defnyddio’r broses apêl yn effeithio ar hawl yr ymgeisydd i apelio’n uniongyrchol i’r Comisiynydd Gwybodaeth os bydd yn dymuno gwneud hynny.
Deddf Diogelu Data 1998
Os byddwch yn dymuno gwneud cais am wybodaeth amdanoch chi, dylid gwneud hynny drwy gyfrwng cais gwrthrych am wybodaeth yn unol â thelerau Deddf Diogelu Data 1998. Mae’r manylion ynghylch sut i wneud cais gwrthrych am wybodaeth i’w gweld yma: Gwneud cais am wybodaeth amdanoch chi eich hun












