Dyfed Powys Police | Heddlu Dyfed Powys
Page Content Starts Here

Cwestiynau a Ofynnir yn Aml

Beth yw diben y Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth?

Gwella mynediad y cyhoedd i wybodaeth ynghylch trefniadau a dulliau gweithredu’r llywodraeth a chyrff cyhoeddus.

Pa hawliau newydd a grëwyd gan y Ddeddf?

Mae Deddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 yn rhoi dau hawl cysylltiedig:

  1. Yr hawl i gael gwybod a yw gwybodaeth yn bodoli, a’r
  2. Hawl i dderbyn y wybodaeth honno (yn amodol ar eithriadau).

Pa fath o wybodaeth y gallaf ei chael?

Unrhyw wybodaeth nad yw wedi ei heithrio ac nad yw’n wybodaeth bersonol.

A allaf gael gwybodaeth bersonol amdanaf fi fy hun?

Mae gan unigolion yr hawl eisoes dan y Ddeddf Diogelu Data i gael
mynediad i wybodaeth a gedwir amdanynt.  Gelwir hyn yn hawl mynediad y
gwrthrych dan adran 7 o’r Ddeddf Diogelu Data.  Mae gwybodaeth bersonol
am drydydd parti adnabyddadwy wedi ei heithrio dan y Ddeddf

Pwy sy’n goruchwylio gweithrediad y Ddeddf?

Y Comisiynydd Gwybodaeth sy’n gyfrifol am reoli’r Ddeddf Diogelu Data a’r Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth.

Pwy sy’n penderfynu a fyddaf yn gallu cael y wybodaeth yr wyf yn ei cheisio?

Yr Uned Rhyddid Gwybodaeth sy’n gyfrifol am wneud penderfyniadau ynghylch ceisiadau am wybodaeth.

Beth fydd yn digwydd os nad wyf yn hapus â’r penderfyniad?

Os nad ydych yn hapus â’r penderfyniad, gweithredir trefn
apelio fewnol ac yna mae gennych yr hawl i apelio i’r Comisiynydd
Gwybodaeth.

A oes hawl gennyf i wneud cais am wybodaeth a gedwir amdanaf i
a gwybodaeth fwy cyffredinol, a all fod yn gysylltiedig, ar yr un
adeg?

Oes, ond bydd rhaid delio â’r ddau gais ar wahân yn unol â’r Ddeddf Diogelu Data a’r Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth.

A yw’r ddeddf yn hollol ôl-weithredol?

Ydy, ond bydd gan awdurdodau bolisi cadw fel rhan o’u
strategaeth rheoli gwybodaeth, felly bydd rhywfaint o wybodaeth yn cael
ei chadw am gyfnod penodol yn unig.  Mae’r ddeddf yn berthnasol i
wybodaeth a gedwir gan yr awdurdod yn unig.

Pwy sy’n gallu gwneud cais am wybodaeth dan y Ddeddf?

Gall unrhyw un, boed yn unigolyn neu’n gorff corfforaethol
wneud cais naill ai drwy ysgrifennu neu anfon e-bost at yr awdurdod. 
Yn unol â’r ddeddfwriaeth, ni dderbynnir ceisiadau dros y ffôn.  Nid
oes raid iddynt fod yn ddinasyddion y DU nac yn byw yn y DU. Y cwbl sydd
angen iddynt wneud yw rhoi manylion digonol i brosesu’r cais a’r ateb.

Pa mor gyflym y bydd yr awdurdod yn ymdrin â’m cais?

Dylid ymdrin â’r cais o fewn 20 diwrnod gwaith. Mae’r cyfnod
hwn yn cynnwys yr amser i ddod o hyd i’r wybodaeth, asesu pa wybodaeth y
dylid ei rhoi, a’i hanfon at y sawl sy’n gwneud y cais. Bydd methiant i
ddarparu’r wybodaeth o fewn y cyfnod hwn yn torri amodau’r Ddeddf, a
bydd gan y Comisynydd Gwybodaeth yr hawl i ystyried bod hyn yn gyfystyr
â Dirmyg Llys. 

A oes rhaid i mi dalu am unrhyw wybodaeth sydd wedi ei chynnwys yn y Cynllun Cyhoeddi?

Ceir manylion am unrhyw daliadau sy’n berthnasol yn y Cynllun Cyhoeddi.