Sut i gael Gwybodaeth o Gynllun Cyhoeddi Heddlu Dyfed-Powys
Gwybodaeth a Chyhoeddiadau
Cynlluniwyd y Cynllun Cyhoeddi hwn i dynnu sylw at wybodaeth a
chyhoeddiadau sydd ar gael ar hyn y bryd gan Heddlu Dyfed-Powys. Mae’r
wybodaeth sydd ar gael drwy’r Cynllun Cyhoeddi wedi ei chynnwys yn y
‘Canllaw i Wybodaeth’. Os yw’r wybodaeth ar gael ar y wefan drwy’r
canllaw, bydd cyswllt hyperdestun yn eich tywys i’r dudalen gywir ar y
wefan. Os nad oes fersiwn ar-lein ar gael, dylech gyflwyno cais trwy
ysgrifennu at:
Heddlu Dyfed-Powys
Blwch Post 99
Llangynnwr
Caerfyrddin
SA31 2PF
Neu anfon e-bost at: foi@Dyfed-Powys.pnn.police.uk
Wrth wneud cais am wybodaeth a gynhwysir yn y cynllun hwn, cofiwch gynnwys y manylion canlynol:
- Eich enw a’ch cyfeiriad.
- Y wybodaeth neu’r dogfennau yr hoffech eu cael.
- Y ffordd yr hoffech dderbyn y wybodaeth (e.e. copi papur, e-bost)
Yn unol â’r ddeddf, gellir codi tâl am wybodaeth. Ar hyn o bryd, y
tâl am wybodaeth a gynhwysir yn y Cynllun Cyhoeddi hwn yw £0.00. Yn
achos cais am nifer o gopïau, gellir gofyn am dâl, ond byddwn yn eich
hysbysu am hynny cyn y caiff y wybodaeth ei darparu.
Faint o Amser Fydd hyn yn ei Gymryd?
Rydym yn anelu i ddarparu gwybodaeth a restrir yn y Cynllun Cyhoeddi cyn gynted ag sy‘n bosib.
Dylid nodi ein bod yn dal i ychwanegu gwybodaeth at y Cynllun
Cyhoeddi a disgwylir y bydd yr Heddlu yn diweddaru adrannau o fewn y ‘Canllaw i Wybodaeth’ yn rheolaidd.












