Hawl yr Unigolyn i Gael Gwybodaeth
Mathau o Wybodaeth
Mae gan unigolion eisoes yr hawl dan Ddeddf Diogelu Data 1998 i
gael gwybodaeth amdanynt eu hunain (data personol) a gedwir ar
gyfrifiadur ac mewn rhai ffeiliau papur.
O ran awdurdodau cyhoeddus, mae’r Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth yn estyn
yr hawl hwn i ganiatáu’r cyhoedd i gael pob math o wybodaeth a gedwir,
boed yn wybodaeth amdanynt eu hunain neu’n wybodaeth arall. Daeth hawl
yr unigolyn i gael gwybodaeth i rym ar y 1af o fis Ionawr 2005.
Mae’r Ddeddf fodd bynnag yn nodi rhai eithriadau i’r hawl hwn ac
yn gosod nifer o rwymedigaethau ar awdurdodau cyhoeddus ynghylch y
ffordd y maent yn darparu gwybodaeth. Yn amodol ar yr eithriadau, mae
gan unrhyw un sy’n gwneud cais yr hawl i gael gwybod a yw’r wybodaeth yn
bodoli, a’r hawl i gael y wybodaeth. Rhaid, yn gyffredinol, darparu
ymateb ymhen 20 diwrnod gwaith.
Gosodwyd dyletswydd hefyd ar awdurdodau cyhoeddus i roi cyngor
neu gymorth i unrhyw un sy’n ceisio gwybodaeth (er enghraifft, er mwyn
esbonio beth sydd ar gael yn barod neu i geisio eglurhad ynghylch yr hyn
sydd ei angen).


