Dyfed Powys Police | Heddlu Dyfed Powys
Page Content Starts Here

Gwneud Cais

Mynediad i Wybodaeth

Mae gan unigolion yr hawl eisoes dan Ddeddf Diogelu Data 1998 i gael mynediad i wybodaeth amdanynt (data personol) a gedwir ar gyfrifiadur, ac mewn rhai ffeiliau papur. O ran awdurdodau cyhoeddus, mae Rhyddid Gwybodaeth yn ymestyn yr hawl hwn i ganiatáu mynediad i bob math o wybodaeth a gedwir, boed yn bersonol neu heb fod yn bersonol. Daeth yr hawl hwn i rym ym mis Ionawr 2005.

Mae’r Ddeddf, fodd bynnag, yn nodi rhai eithriadau i’r hawl hwn ac yn gosod nifer o rwymedigaethau ar awdurdodau cyhoeddus ynghylch y modd y byddant yn darparu’r wybodaeth.   Yn amodol ar yr eithriadau, mae gan unrhyw un sy’n gwneud cais yr hawl i gael gwybod pa wybodaeth sy’n bodoli ac i gael y wybodaeth honno.  Yn gyffredinol, rhaid ymateb i gais o fewn 20 diwrnod gwaith.

Mae dyletswydd ar yr awdurdodau cyhoeddus hefyd i ddarparu cyngor neu gymorth i unrhyw un sy’n ceisio gwybodaeth (er enghraifft esbonio beth sydd ar gael yn hawdd ac egluro’r hyn sydd ei angen).

Gwneud Cais

Gallwch wneud cais am wybodaeth drwy ysgrifennu at:

Uned Rhyddid Gwybodaeth
Pencadlys Heddlu Dyfed-Powys
Blwch Post 99
Llangynnwr
Caerfyrddin
SA31 2PF

Neu fel arall anfonwch e-bost at: foi@dyfed-powys.pnn.police.uk

Cofiwch gynnwys y manylion canlynol:

  • Eich enw a chyfeiriad ar gyfer derbyn gohebiaeth
  • Y wybodaeth neu’r dogfennau yr hoffech gael mynediad iddynt

Gan ddibynnu ar natur eich cais, efallai y bydd ffi yn daladwy.

Mae croeso i chi gysylltu â’r Uned Rhyddid Gwybodaeth os hoffech gael cymorth i wneud cais am wybodaeth.

Noder os gwelwch yn dda: Wrth gyflwyno cais am wybodaeth trwy e-bost, bydd yr Adran Rhyddid Gwybodaeth yn cydnabod derbyn eich cais o fewn 2 ddiwrnod gwaith trwy e-bost cadarnhad.

Os nad ydych chi wedi derbyn cadarnhad ar ôl 2 ddiwrnod gwaith, cysylltwch â’r Adran ar y rhif ffôn isod neu ail-gyflwynwch eich cais.

Hawl i Apelio

Os bydd cais am wybodaeth a wneir yn unol â hawl mynediad yr unigolyn yn cael ei wrthod, mae gan yr ymgeisydd yr hawl i apelio yn erbyn y penderfyniad. Dylid cyflwyno apêl yn y lle cyntaf i Heddlu Dyfed Powys lle y bydd yn destun craffu annibynnol.  Os bydd yr ymgeisydd yn dal i fod yn anfodlon, mae ganddynt yr hawl i apelio yn erbyn y penderfyniad i beidio â datgelu i’r Comisiynydd Gwybodaeth.