Dyfed Powys Police | Heddlu Dyfed Powys
Page Content Starts Here

Strategaethau Cyhoeddi

Ar hyn o bryd, mae’r
Heddlu’n datblygu nifer o strategaethau cyhoeddi ar gyfer sawl categori o
wybodaeth. Bydd y strategaethau cyhoeddi yn nodi amserlenni cyhoeddi. Bydd y
strategaethau yn ddogfennau byw a fydd yn cael eu diweddaru’n rheolaidd wrth i
wybodaeth ddatblygu. Bydd y dogfennau ar gael trwy ‘Canllaw i Wybodaeth’ Heddlu
Dyfed-Powys.

Yn y lle cyntaf, dylid
cyfeirio unrhyw ymholiadau yn ymwneud â strategaethau cyhoeddi neu unrhyw
wybodaeth a gyhoeddir o ganlyniad i unrhyw un o’r strategaethau cyhoeddi, i’r
Uned Rhyddid Gwybodaeth.

Mae Heddlu Dyfed-Powys
wedi ymrwymo i arddangos ethos o ddidwylledd, tryloywder ac atebolrwydd, ac
ystyrir strategaethau cyhoeddi yn gam ymlaen o ran cofleidio ethos o’r fath.