Dyfed Powys Police | Heddlu Dyfed Powys
Page Content Starts Here

Cyflwyno Cais am Wybodaeth?

Mae Adran 8 o Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 (y Ddeddf) yn nodi’r
hyn sy’n cyfrif fel cais am wybodaeth dan y Ddeddf. Mae’n rhaid i gais:

  • Gael ei gyflwyno’n ysgrifenedig
  • Gynnwys enw’r ymgeisydd a chyfeiriad ar gyfer anfon gohebiaeth
  • Gynnwys disgrifiad o’r wybodaeth a geisir

Fel y nodir uchod, rhaid i gais Rhyddid Gwybodaeth dilys gynnwys
enw’r ymgeisydd a chyfeiriad cyswllt, sy’n gallu bod yn gyfeiriad
e-bost. Nid oes raid i chi ddarparu unrhyw fanylion cyswllt arall, ond
fe allai rhif ffôn hwyluso’r broses pe bai angen i ni drafod eich cais
gyda chi neu geisio eglurhad.

Cyn cyflwyno eich cais Rhyddid Gwybodaeth, dylech ystyried y canlynol:

  • Efallai bod y wybodaeth rydych chi ei hangen eisoes ar gael ar wefan Heddlu Dyfed-Powys.
  • Efallai bod y wybodaeth ar gael ar wefannau eraill.
  • Bydd yn hwyluso eich cais os gallwch ddarparu, adeg
    cyflwyno’ch cais, manylion ynghylch y cyfnod y mae eich cais yn
    ymwneud ag ef, er enghraifft, y deuddeng mis blaenorol, y pum
    mlynedd flaenorol, ac ati.  Bydd yn hwyluso’r broses hefyd os
    gallwch nodi wrth gyflwyno’ch cais, a ydych yn dymuno cael y wybodaeth
    fesul blwyddyn ariannol neu flwyddyn galendr.  Fodd bynnag, mae’n
    bosib mewn rhai amgylchiadau y bydd y wybodaeth yn cael ei chadw
    ar un ffurf yn unig.
  • Os hoffech drafod eich cais am wybodaeth cyn ei gyflwyno,
    mae croeso i chi ffonio’r Uned Rhyddid Gwybodaeth.  Bydd staff yr
    Uned yn hapus i roi cyngor a chymorth i chi.  Darperir y
    manylion cyswllt isod

Gwybodaeth yn ymwneud ag ymchwiliadau’r Heddlu

Wrth gynnal eu hymchwiliadau mae’r Heddlu yn rhoi sylw priodol i
gyfrinachedd a phreifatrwydd dioddefwyr, tystion a’r drwgdybiedig. Yn
aml, bydd ymchwiliadau felly yn golygu defnyddio tactegau neu dechnegau
plismona, a allai, pe baent yn hysbys i bawb, darfu ar allu’r
gwasanaeth heddlu i atal a datrys troseddau.  Cydnabyddir hefyd y
gallai datgelu gwybodaeth am ymchwiliadau cyfredol beryglu unrhyw achos
llys dilynol.   

Am y rhesymau hyn, bydd gwasanaeth yr heddlu, gan amlaf, yn gwneud
cais am esemptiad a fydd yn atal gwybodaeth am ymchwiliadau cyfredol, a
geisir o dan Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth 2000, rhag cael ei datgelu.

Tra’n cymeryd y safbwynt cyffredinol hwn, rydym yn cydnabod y gall
rhai achosion gynnwys materion lles y cyhoedd pwysig a dylanwadol a
fydd yn gosod rheidrwydd i ddatgelu’r wybodaeth.  Fodd bynnag, cyn
disodli ystyriaethau megis preifatrwydd neu’r niwed posib i’r unigolion
yn yr achos dan sylw, rhaid bod lles y cyhoedd yn mynd y tu hwnt i
chwilfrydedd neu ddiddordeb.

I sicrhau bod lles y cyhoedd yn cael ystyriaeth briodol, bydd bob
cais am wybodaeth mewn perthynas ag ymchwiliad yn cael eu hystyried ar
wahân, yn unol â gofynion y Ddeddf.

Ceisiadau am Ddata Personol

Ystyrir gwybodaeth a ddatgelir o dan y Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth
2000 fel gwybodaeth sy’n cael ei datgelu i’r byd ac ni ystyrir pwy sy’n
gwneud y cais na phwrpas y cais. Dylid nodi felly, lle y mae Heddlu
Dyfed-Powys yn derbyn cais am wybodaeth o dan y Ddeddf Rhyddid
Gwybodaeth 2000 neu y mae cais yn cael ei gyfeirio at yr Uned Rhyddid
Gwybodaeth sy’n ymwneud â’r ymgeisydd yn benodol h.y. data personol 
bydd ymateb ‘Ddim yn Cadarnhau na Gwadu’ yn cael ei roi gan ddyfynnu
Adran 40(5) o’r Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth (gwybodaeth bersonol wedi’i
heithrio). Yn ychwanegol at hyn, bydd ymgeiswyr yn derbyn manylion am y
broses mynediad at wybodaeth ynghyd â ffurflen mynediad at wybodaeth
berthnasol, neu’n cael eu cyfeirio at y ffurflen berthnasol mewn
perthynas â ’Thystysgrifau’r Heddlu, fel y bo’n briodol.  Am ragor o fanylion mewn perthynas â gwneud cais am wybodaeth bersonol, gweler yr adran “Mynediad at Wybodaeth y Ddeddf Gwarchod Data”.  
Mae rhagor o fanylion mewn perthynas â hawliau unigolyn o dan y Ddeddf
Gwarchod Data ar wefan Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth a gellir eu
cyrchu drwy gyfrwng y ddolen sy’n dilyn: www.ico.gov.uk/for_the_public/your_personal_information.aspx

Canllaw Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth

Mae Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth wedi cynhyrchu dogfen ganllaw
ar gyfer unrhyw un sy’n ystyried cyflwyno cais am wybodaeth.  Gall y
canllawiau hyn fod o gymorth pellach i chi a gellir eu cyrchu drwy
gyfrwng y ddolen isod:

The ICO charter for responsible freedom of information requests (PDF)

Gwybodaeth Gyffredinol

Ystadegau Troseddu

Dylid nodi ei bod yn ofynnol i heddluoedd yn y DU ddarparu
ystadegau troseddu yn rheolaidd i gyrff y llywodraeth, ac mae’r meini
prawf ar gyfer cofnodi’r ystadegau hyn yn cael eu pennu’n genedlaethol.
Fodd bynnag, nid yw’r systemau a ddefnyddir i gofnodi’r ffigyrau hyn
nac ychwaith y gweithdrefnau a ddefnyddir yn lleol i gasglu’r data yn
rhai generig.  Am y rhesymau hynny felly, os cyflwynir yr un cais i fwy
nag un heddlu, ni ddylid cymharu unrhyw ymateb a ddarperir i gais a
gyflwynwyd i Heddlu Dyfed-Powys gydag unrhyw ymateb arall y byddwch yn
ei dderbyn.

Heddluoedd Eraill yng Nghymru

Mae Heddlu Dyfed-Powys yn cwmpasu ardaloedd Sir Gaerfyrddin,
Ceredigion, Sir Benfro a Phowys.  Gellir cyflwyno ceisiadau am
wybodaeth sy’n ymwneud â rhannau eraill o Gymru i un o’r Heddluoedd
Cymreig eraill.  Gellir cael manylion cysylltu Rhyddid Gwybodaeth
Heddluoedd eraill Cymru drwy ddilyn yr hyperddolenni isod i’r gwefannau
perthnasol, ac yna’r dolenni Rhyddid Gwybodaeth.

Trosglwyddo ceisiadau

Efallai y bydd angen trosglwyddo rhai ceisiadau am wybodaeth,
naill ai yn llwyr neu’n rhannol, i awdurdodau cyhoeddus eraill er mwyn
darparu’r ateb mwyaf cynhwysfawr posib i’r cais.  Os digwydd hyn i’ch
cais chi, byddwn yn rhoi gwybod i chi.  Yn y mwyafrif o achosion bydd
hynny’n golygu eich hysbysu fod y wybodaeth yn cael ei chadw gan
awdurdod cyhoeddus arall. Byddwn yn darparu manylion cyswllt yr
awdurdod cyhoeddus perthnasol neu’n trosglwyddo’r cais ar eich rhan a
gyda’ch caniatâd chi.  Wrth wneud hyn, byddwn yn rhoi ystyriaeth i’r
Cod Ymarfer a nodir yn adran 45 o’r Ddeddf.

Code of Practice on the discharge of public authorities’ functions under Part 1 of the Freedom of Information Act 2000

Adran 12 – Eithriadau lle mae’r gost o gydymffurfio yn fwy na’r terfyn priodol

Bydd Heddlu Dyfed-Powys yn cyhoeddi hysbysiad gwrthod ar gyfer
ceisiadau lle’r ystyrir  bod y gost o gydymffurfio yn fwy na’r terfyn
priodol a nodir yn Adran 12 o'r Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth a’r
Rheoliadau Diogelu Data (Terfyn a  Ffioedd Priodol) 2004.  Fodd bynnag
ni fydd hyn yn effeithio ar hawl yr unigolyn i ofyn am adolygiad
mewnol.

The Freedom of Information and Data Protection (Appropriate Limit and Fees) Regulations 2004

Mae croeso i chi gysylltu ag Uned Rhyddid Gwybodaeth Heddlu Dyfed-Powys os hoffech drafod eich cais cyn ei gyflwyno.