Dyfed Powys Police | Heddlu Dyfed Powys
Page Content Starts Here

Y Fframwaith Cyfreithiol

Beth yw’r Fframwaith Cyfreithiol ar gyfer Cynllun Cyhoeddi?

Mae Cynlluniau Cyhoeddi yn nodwedd newydd o ddeddfwriaeth y
Deyrnas Unedig ar fynediad i wybodaeth a gedwir gan awdurdodau
cyhoeddus.  Eu pwrpas yw bod yn fodd i awdurdodau cyhoeddus ddarparu
swm sylweddol o wybodaeth fel mater o drefn, heb ddisgwyl i rywun wneud
cais penodol amdani.

Mae Adran 19 (2) o’r Ddeddf yn nodi’r gofynion ar gyfer cynllun cyhoedd fel a ganlyn:

Rhaid i gynllun cyhoeddi:

  1. Nodi dosbarthiadau gwybodaeth y mae’r awdurdod cyhoeddus yn eu cyhoeddi neu’n bwriadu eu cyhoeddi:
  2. Nodi’r modd y mae’r wybodaeth ymhob dosbarth yn cael ei chyhoeddi neu y bwriedir ei chyhoeddi; a
  3. Nodi a yw’r deunydd neu a fwriedir i’r deunydd fod ar gael i’r cyhoedd yn ddi-dâl neu am dâl

Mae Adran 19 (3) yn nodi “wrth fabwysiadu cynllun cyhoeddi, bydd
awdurdod cyhoeddus yn ystyried lles y cyhoedd wrth ganiatáu’r cyhoedd i
gael gwybodaeth a gedwir gan yr awdurdod ac wrth gyhoeddi rhesymau am
benderfyniadau a wneir gan yr awdurdod cyhoeddus”.

Mae Adran 19 (1) yn nodi bod dyletswydd ar bob awdurdod cyhoeddus
i fabwysiadu a chynnal cynllun cyhoeddi a chyhoeddi gwybodaeth yn unol
â’i gynllun ac, o bryd i’w gilydd, adolygu ei gynllun cyhoeddi.