Page Content Starts Here
Hanes
Ffurfiwyd Heddlu Dyfed-Powys ym 1968 pan unwyd y pedwar
cwnstabliaeth sirol yn yr ardal. Fel
rhan o’r rhaglen gyfuno fawr ddiwethaf ym 1968, unwyd yr hen heddluoedd sirol,
sef Caerfyrddin, Penfro, Aberteifi,
Brycheiniog, Maesyfed a Threfaldwyn (yr oedd y tri olaf eisoes wedi cyfuno i
ffurfio Cwnstabliaeth Canolbarth Cymru) i ffurfio Cwnstabliaeth
Dyfed-Powys. Roedd rhai o’r
heddluoedd hynny wedi cael eu sefydlu mor bell yn ôl ag 1829. Newidiwyd yr enw i Heddlu Dyfed-Powys
ym 1974. Erbyn heddiw, Dyfed-Powys
yw’r ardal heddlu ddaearyddol fwyaf ar draws Cymru a Lloegr.













