Dyfed Powys Police | Heddlu Dyfed Powys
Page Content Starts Here

Contractau a Chaffael

Mae Heddlu Dyfed-Powys yn gwario tua £18 miliwn y flwyddyn ar nwyddau a gwasanaethau o’r gyllideb gwariant refeniw, gan ddarparu amrywiaeth eang o gyfleoedd i gwmnïau o bob maint.

Tra bod y cyfrifoldeb ariannol am gaffael nwyddau a gwasanaethau wedi ei ddatganoli i randdeiliaid priodol o fewn y sefydliad, cyfrifoldeb yr Adran Gaffael yw caffael strategol.

Ein gweledigaeth yw sicrhau gwerth am arian drwy gaffael nwyddau, gwasanaethau a gweithiau sy’n cyfrannu at flaenoriaethau’r Awdurdod ac yn bodloni anghenion swyddogion a staff yr heddlu, a hynny mewn modd ymatebol, proffesiynol ac sydd wedi ei gynllunio a’i reoli’n dda..

Sut Ydym yn Prynu?

Pryniadau a chontractau sydd werth llai na £1000

Dylid ceisio mwy nag un amcan bris lle ystyrir ei fod yn briodol dangos gwerth am arian. 

Ar gyfer pryniadau a chontractau sydd werth rhwng £1000 a £29,999 a chontractau Gwaith sydd werth hyd at £49,999

Rhaid ceisio o leiaf tri amcangyfrif ffurfiol

Ar gyfer pryniadau a chontractau sydd werth £30,000 a chontractau Gwaith sydd werth £50,000 ac yn fwy

Os nad oes contractau neu gytundebau fframwaith y bernir eu bod yn cynnig gwerth am arian yna cychwynnir proses dendro. Cyflawnir hyn yn unol ag Archebion Sefydlog yr Heddlu ar Gontractau.

Hysbysebir tendrau a gyhoeddir am nwyddau a gwasanaethau sydd werth £30,000 neu’n fwy drwy bluelight a sell2wales.

Hysbysebir tendrau a gyhoeddir am gontractau gwaith sydd werth £50,000 neu’n fwy drwy sell2wales.

Hysbysiad Pwysig I Gyflenwyr

O'r 1af Ionawr 2005 bydd pob gwybodaeth yn ymwneud â darpariaeth a pherfformiad cytundebau a wneir gydag Awdurdod Heddlu Dyfed-Powys yn ddarostyngedig i delerau Deddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 ac, fel y cyfryw, gellir, ar gais ac yn unol â thelerau'r Ddeddf, ei datgelu i drydydd person.

Dylai cyflenwyr felly sicrhau eu bod yn ymwybodol o holl oblygiadau'r Ddeddf, sy'n gwbl ôl-weithredol.

Gellir gweld telerau'r Ddeddf yn eu cyfanrwydd ynghyd â chanllawiau a luniwyd yn benodol ar gyfer awdurdodau lleol am oblygiadau cytundebau trydydd person ar wefan Gweinyddiaeth Cyfiawnder.