Dyfed Powys Police | Heddlu Dyfed Powys
Page Content Starts Here

Ein Haddewid i Chi

Diben Gwasanaeth yr Heddlu yw arddel y gyfraith yn deg ac yn gadarn: atal troseddu: dal drwgweithredwyr sy’n torri’r gyfraith a dwyn achos cyfreithiol yn eu herbyn: cadw Heddwch y Frenhines: diogelu, helpu a lliniaru gofidiau’r gymuned a chael ein gweld yn gwneud y cyfan hyn gyda didwylledd, synnwyr cyffredin a doethineb barn.

Rhaid i ni fod yn dosturiol, yn gwrtais ac yn amyneddgar, gan weithredu heb ofn na ffafriaeth na rhagfarn yn erbyn hawliau eraill. Mae angen i ni fod yn broffesiynol, yn ddigyffro a dangos hunanddisgyblaeth yn wyneb trais, ac ond defnyddio’r grym hwnnw sydd ei angen i gyflawni ein dyletswyddau yn ôl y gyfraith.

Rhaid i ni ymdrechu i leddfu pryderon y cyhoedd, ac adlewyrchu, i’r graddau y gallwn, eu blaenoriaethau hwy yn yr hyn a wnawn. Rhaid i ni ymateb i feirniadaeth deg gyda pharodrwydd i newid.

Bydd gallu’r heddlu i wireddu’r datganiad uchod yn dibynnu ar gydweithrediad a chymorth parod y gymdeithas yn gyffredinol. Mae’r cyfrifoldeb am gadw cyfraith a thefn yn gorwedd gyda’r gymdeithas gyfan ac nid gyda’r heddlu yn unig.