Page Content Starts Here
Perfformiad
Mae Heddlu Dyfed Powys yn gyson wedi cyflwyno gwasanaeth
plismona o’r radd flaenaf i’r cyhoedd ar draws ardal yr Heddlu ac mae’r
perfformiad ardderchog a amlinellir yn yr ystadegau trosedd diweddaraf yn dyst
i hynny.
Yn ôl Arolwg Troseddu Prydain mae ein lefelau tybiedig o
ymddygiad gwrthgymdeithasol, sef 5%, yn is nag yn unlle arall ar draws Cymru a
Lloegr, ac mae mwy o bobl yn credu bod eu heddlu yn delio â materion lleol.
Crynodeb o’r Ffigyrau Troseddu Cofnodedig ar gyfer y
flwyddyn hyd at Fedi 2010: Roedd nifer y troseddau cofnodedig wedi gostwng 8.1%
yn ardal Dyfed-Powys (y lefelau isaf o droseddu ar draws Cymru a Lloegr)
- Mae lladrad
wedi gostwng 12.5% yn ardal Dyfed-Powys (gyda 35 o droseddau, dyma’r nifer
isaf yng Nghymru a Lloegr) - Mae
byrgleriaeth mewn cartrefi wedi gostwng 1.9% yn ardal Dyfed-Powys (y lefel
isaf ar draws Cymru a Lloegr) - Mae
troseddau cerbydau wedi gostwng 10.8% yn ardal Dyfed-Powys (y lefel isaf
ar draws Cymru a Lloegr) - Mae
difrod troseddol wedi gostwng 18.1% yn ardal Dyfed-Powys (y lefel isaf o
ddifrod troseddol ar draws Cymru a Lloegr) - Mae
trais yn erbyn y person wedi gostwng 9.0% yn ardal Dyfed-Powys (y lefel
isaf ar draws Cymru a Lloegr)












