Dyfed Powys Police | Heddlu Dyfed Powys
Page Content Starts Here

Cynllun Plismona Lleol

Mae’r Cynllun Plismona 3-blynedd hwn yn nodi’r prif flaenoriaethau ar gyfer y gwasanaeth gan roi ystyriaeth i anghenion lleol, barn y cyhoedd, perfformiad diweddar, sut rydym yn defnyddio ein hadnoddau a’r agenda blismona ranbarthol/genedlaethol. Wrth ddiffinio ein blaenoriaethau ar gyfer 2011-2014, rydym wedi ystyried barn ac anghenion ein cymunedau yn seiliedig ar adborth cymunedol a chanlyniadau ymgynghori, blaenoriaethau ein partneriaid, ein cyfraniad i waith partneriaeth a blaenoriaethau cenedlaethol y glymblaid a gyflwynir yng Nghynllun Busnes y Swyddfa Gartref ar gyfer 2011-2015. Rydym hefyd wedi adolygu ein systemau mewnol er mwyn dadansoddi tueddiadau o ran troseddau a digwyddiadau, gan nodi’r meysydd plismona sy’n cyflwyno’r bygythiad, niwed a’r perygl mwyaf I’n cymunedau.

Cynllun Plismona Lleol 2011-2014.

Adolygir perfformiad yn erbyn y mesurau a osodir o fewn y cynllun bob chwarter gan Bwyllgor Cynllunio, Perfformiad a Chraffu Awdurdod yr Heddlu. Cliciwch yma i weld agenda, cofnodion ac adroddiadau’r Pwyllgor hwnnw.

Rhaid bod gennych feddalwedd Adobe Reader i weld neu i lawrlwytho ffeiliau PDF. Gellir lawrlwytho Adobe Reader yn rhad ac am ddim o Adobe.

Cynllun Plismona Lleol 2011-2014

Archif

Cliciwch ar y ddolen ganlynol am Nodyn Cynghori yn ymwneud â Chynllun Plismona Lleol 2010/2013.