Dyfed Powys Police | Heddlu Dyfed Powys
Page Content Starts Here

Cynllun Plismona 2010-13: Nodyn Cynghori

Bydd y broses Gynllunio ar gyfer y blynyddoedd
sydd i ddod yn cael ei llywio gan nifer o bapurau gan y llywodraeth,
megis ‘Plismona yn yr 21ain Ganrif: Ailgysylltu’r heddlu a’r cyhoedd’
(a gyhoeddwyd ym mis Gorffennaf 2010), fydd yn ffurfio rhan o ‘Fesur
Diwygio’r Heddlu a Chyfrifoldeb Cymdeithasol’ a gyflwynir yn yr hydref. 
Yn ogystal, yr ‘Adolygiad Cynhwysfawr o Wariant’ nesaf (a ddisgwylir
ym mis Hydref 2010) fydd yr un mwyaf tyngedfennol ers meitin o ran
plismona yn ein hardal ni.  Heb amheuaeth, bydd rhaid i Wasanaeth ac
Awdurdod yr Heddlu ail-ystyried ac ail flaenoriaethu eu gweithgareddau
a’u swyddogaethau.

Mae’r cyhoeddiadau diweddaraf ynghylch y diffyg yn y gyllideb
genedlaethol yn nodi bod rhaid i Wasanaeth yr Heddlu sicrhau ail don o
arbedion ariannol sylweddol. Mae’r arbedion arfaethedig hyn yn gosod
llawer mwy o bwysau arnom na’r toriad cyntaf i’n cyllideb ar gyfer
2010/1011 a wnaed yn gynharach eleni.  Yn ôl ein hamcangyfrif gorau,
sy’n seiliedig ar wybodaeth a gafwyd gan swyddogion y Swyddfa Gartref,
bydd rhaid i ni yn awr dorri £13 miliwn y flwyddyn o’n cyllideb erbyn
2014/15. Mae hyn golygu arbedion cronnus o dros £34 miliwn yn ystod y
cyfnod rhwng nawr a phryd hynny.

Ni fydd ein cyfeiriad strategol cyffredinol yn newid ar hyn o bryd; bydd y gwasanaeth yn parhau i ganolbwyntio ar ‘Ddiogelu ein Cymuned’, a’i gweledigaeth i ‘sicrhau
gwelliant parhaus o ran lefelau hyder o fewn ein cymunedau, trwy wneud
yn siŵr bod pobl yn fwy diogel ac yn fwy bodlon, trwy drin pawb mewn
ffordd deg a dwyn troseddwyr o flaen eu gwell
’.

Byddwn hefyd yn parhau i ganolbwyntio ar leihau a datrys trosedd,
darparu gwasanaethau hygyrch a gweladwy a gwasanaeth brys o’r radd
flaenaf, yn ogystal â delio â materion anodd megis troseddau trefnedig a
therfysgaeth.  Yn ystod y blynyddoedd diweddaf, rydym wedi ychwanegu
darparu gwerth am yr arian at y rhestr hon o flaenoriaethau.

Bydd Gwasanaeth ac Awdurdod yr Heddlu yn adolygu pob agwedd yn
ymwneud â’r modd yr ydym yn cyflawni ein busnes ar hyn o bryd.  Bydd
pethau yn newid.  Bydd rhai gwasanaethau yn cael eu gwella, a rhai yn
cael eu cwtogi, tra bydd gwasanaethau eraill yn aros yr un fath, er
efallai yn cael eu darparu mewn ffordd wahanol.

Rydym am i’n cymunedau lleol fod yn rhan o’r daith hon ac felly
rydym yn gofyn i chi fynegi eich barn er mwyn bwydo’r drafodaeth.  Ar
sail eich sylwadau a’ch syniadau byddwn yn gwneud y penderfyniadau a
fydd yn ein galluogi i barhau i ddarparu gwasanaeth o’r radd flaenaf ar
gyfer ein cymunedau a sicrhau’r arbedion y mae’n ofynnol i ni eu
gwneud.

Rhaid bod gennych feddalwedd Adobe Reader i weld neu i lawrlwytho ffeiliau PDF. Gellir lawrlwytho Adobe Reader yn rhad ac am ddim o Adobe.

Cynllun Plismona Lleol 2011-2014

Archif

Cliciwch ar y ddolen ganlynol am Nodyn Cynghori yn ymwneud â Chynllun Plismona Lleol 2010/2013.