Page Content Starts Here
Rhanbarthol Sir Gaerfyrddin a Powys
Prif Uwch-arolygydd Steven Mears
Ymunodd Prif Uwch-arolygydd Mears â Heddlu Dyfed-Powys yng Ngorffennaf 1983 ac mae’n frodor o Lanelli.
Cyn ymuno â’r heddlu roedd wedi cwblhau prentisiaeth fel trydanwr ac wedi gweithio yn y Diwydiant Dur a Chynhyrchu Trydan.
Yn ystod ei wasanaeth y mae wedi gweithio yn Sir Gaerfyrddin, Ceredigion a Phowys fel swyddog lifrog ac fel swyddog CID.
Y mae wedi cwblhau secondiad 4 blynedd i’r Sgwad Trosedd Rhanbarthol a blwyddyn o secondiad i Heddlu De Cymru.












