Prif Gwnstabl
Mae gan Ian Radd Meistr mewn Troseddeg a Chyfiawnder Troseddol o Brifysgol Caerdydd, Gradd Baglor mewn Astudiaethau Heddlu o Brifysgol Morgannwg a Diploma Ôl-raddedig mewn Troseddeg Gymhwysol o Brifysgol Caergrawnt.
Ymunodd Ian â Heddlu De Cymru ym 1980, a bu’n gweithio mewn amryw o rolau Iwnifform ac Arbenigol, yn ninasoedd Caerdydd ac Abertawe yn bennaf. Roedd yn Gomander Ardal dros yr adran orllewinol yn Heddlu De Cymru tan ei benodiad yn Brif Gwnstabl Cynorthwyol gan Heddlu Gorllewin Mersia ym mis Tachwedd 2000. Cafodd ei ddyrchafu’n Ddirprwy Brif Gwnstabl dros Orllewin Mersia yn 2005.
Mae wedi teithio’n eang ar draws Gogledd America ac ym 1995, derbyniodd Gymrodoriaeth ‘Fulbright’ mewn Astudiaethau Heddlu er mwyn astudio materion plismona strategol yn yr Unol Daleithiau. Mae Ian wedi graddio o ‘Gwrs Arbennig’, Rhaglen Comanderiaid Gweithrediadol a Chwrs Rheoli Strategol y Deyrnas Unedig. Mae hefyd wedi mynychu Cwrs Ewropeaidd i Uwch Swyddogion yr Heddlu yn Sbaen. Bu’n gweithio ar ystod o brosiectau yn India, gan gynnwys rhaglenni datblygu arweinwyr a chynllun i ddatblygu unedau diogelu plant, sef y cyntaf o’u math ar yr is-gyfandir.
Mae gan Ian brofiad helaeth o ran plismona digwyddiadau mawr yn ymwneud â’r drefn gyhoeddus ac arfau saethu. Mae ei brofiad yn y maes yn cynnwys delio â digwyddiadau cyhoeddus ac anhrefn ar raddfa fawr a gweithgareddau gwrthderfysgaeth, ac ef oedd yn gyfrifol am yr holl ddigwyddiadau cyhoeddus, yr ymweliadau gan bwysigion a’r drefn gyhoeddus pan gynhaliwyd yr Uwchgynhadledd Ewropeaidd yng Nghaerdydd. Am yr wyth mlynedd diwethaf, bu Ian yn Gadeirydd ar Weithgor ACPO sy’n ymdrin â Defnydd Arfau Saethu gan yr Heddlu ac yn cynhyrchu polisïau a chanllawiau cenedlaethol. Bu hefyd yn goruchwylio cyflwyno offer Taser yn y Deyrnas Unedig. Mae’n aelod o fwrdd Fforwm Cenedlaethol Gweithredu’r Gyfraith (ILEF) ac mae’n gweithio’n agos gyda nifer o asiantaethau yn yr Unol Daleithiau ar ddatblygu polisïau a thactegau.
Penodwyd Ian yn Brif Gwnstabl Heddlu Dyfed-Powys ar yr 8fed o fis Mehefin, 2008.
Mae Ian yn byw gyda’i wraig yn Sir Gâr. Mae ganddo ddau blentyn sydd wedi tyfu i fyny ac mae ei ddiddordebau yn cynnwys cerdded a chasglu ac adfer hen bethau.












