Canolbwyntio ar y Dinesydd
Cychwynnodd Gwyn ei yrfa fel heddwas gyda Heddlu De Cymru ym 1982. Bu’n gweithio yn Abertawe cyn symud i Ganolfan Hyfforddi Heddlu Cymru fel Sarjant ym 1993. Blwyddyn yn ddiweddarach, cafodd ei ddyrchafu’n Arolygydd ac ym 1994 fe’i penodwyd yn Gyfarwyddwr Astudiaethau yn yr Uned Ganolog Cynllunio a Hyfforddi yn Harrogate, Gogledd Swydd Efrog.
Dychwelodd i Dde Cymru ym 1996 a blwyddyn yn ddiweddarach cafodd ei ddyrchafu’n Brif Arolygydd mewn amrywiaeth o rolau gan gynnwys gwasanaethau cefnogi, cynllunio digwyddiadau a chyfiawnder troseddol cyn treulio cyfnod maith fel Comander Rhanbarthol dros dro yn Rhanbarth De Abertawe, oedd newydd ei ffurfio ar y pryd.
Yn 2000 aeth Gwyn ar secondiad i Ganolfan Hyfforddi Cenedlaethol yr Heddlu yn Bramshill lle y bu’n gweithio fel Uwcharolygydd yng Nghyfadran Genedlaethol Arweinyddiaeth yr Heddlu a Chyfadran Genedlaethol Gweithrediadau’r Heddlu.
Ymunodd Gwyn â Heddlu Dyfed Powys fel Pennaeth Hyfforddi a Datblygu, ac ar ôl cyfnod byr fel Pennaeth Adnoddau Dynol, fe’i penodwyd yn Gomander Uned Reoli Sylfaenol Powys yn 2004. Bu’n Gomander Rhanbarthol am bum mlynedd, oedd yn cynnwys dau gyfnod ym Mhencadlys yr Heddlu fel Prif Gwnstabl Cynorthwyol dros dro. Ym mis Chwefror 2010 cychwynnodd Gwyn yn ei swydd gyfredol ym Mhencadlys yr Heddlu fel Pennaeth Cyflwyno Gwasanaethau Cwsmeriaid gyda chyfrifoldeb dros Gyfathrebu Corfforaethol, Gwasanaethau Plismona sy’n Canolbwyntio ar y Dinesydd a Thrafod Galwadau a Digwyddiadau.
Mae gan Gwyn radd Baglor gydag anrhydedd ail ddosbarth uwch mewn Seicoleg a gradd Meistr mewn Addysg, Arweinyddiaeth a Rheolaeth. Mae ganddo ddiddordeb gwirioneddol mewn rheoli amrywiaeth ac arweinyddiaeth a gwasanaethau cwsmeriaid ac mae’n Gymrawd o’r Sefydliad Siartredig Personél a Datblygu, yr Academi Addysg Uwch yn ogystal â bod yn Rheolwr Siartredig gyda’r Sefydliad Rheolaeth Siartredig.
Yn ystod ei yrfa mae Gwyn wedi treilio amser gyda Gwasanaeth Heddlu De Affrica fel rhan o’r Rhaglen Gymorth Brydeinig, a gyda Gwasanaeth Heddlu Trinidad a Thobago lle y bu’n archwilio i hanes ei deulu.
Magwyd Gwyn yn Abertawe lle mae’n dal i fyw gyda’i wraig Nicola a’i dair merch.












