Pennaeth Gwasanaethau Corfforaethol
Enillodd Paul ei radd ym Mhrifysgol Loughborough, ac ym mis Awst 2000 ymunodd â staff Heddlu Dyfed-Powys fel Ymchwilydd-Ddadansoddydd. Yna, yn yr un flwyddyn, cafodd ei benodi yn Swyddog Strategaeth a Chynllunio’r Heddlu – y cyntaf i ddal y swydd hon. Ym mis Hydref 2002, fe’i dyrchafwyd yn Bennaeth Gwasanaethau Corfforaethol i olynu Steve White.
Yn rhinwedd ei swydd fel Pennaeth Gwasanaethau Corfforaethol, mae Paul yn gyfrifol am yr adrannau canlynol - Gwella Perfformiad a Busnes, Archwilio ac Adolygu, Strategaeth a Chynllunio, Cofrestryddion Troseddau a Digwyddiadau a Uned Cofnodi Troseddau.
Cyn cychwyn ar ei yrfa gyda Heddlu Dyfed-Powys, treuliodd Paul 6 mlynedd fel newyddiadurwr a thair blynedd fel Swyddog Meincnodi gyda Chyngor Sir Penfro. Roedd y swydd olaf hon yn cynnwys rhedeg Canolfan Gyfeirio Meincnodi Llywodraeth Leol, darparu cyngor a hyfforddiant am wasanaethau meincnodi i’r awdurdodau lleol a sefydliadau sector cyhoeddus eraill ar draws y DU.
Mae Paul yn byw gyda’i wraig a’i ddau blentyn yn Ninbych-y-pysgod. Mae wedi bod yn gysylltiedig â nifer o weithgareddau codi arian gyda Ford Gron Dinbych-y-pysgod, ac mae ei ddiddordebau eraill yn cynnwys chwaraeon, actio amatur a cherddoriaeth.












