Dyfed Powys Police | Heddlu Dyfed Powys
Page Content Starts Here

Dirprwy Brif Gwnstabl

Ms Jackie Roberts

Dechreuodd Jackie Roberts ei gyrfa gyda Heddlu De Cymru ym 1983, lle bu’n gweithio am 21 mlynedd mewn lifrau ac yn CID. Trosglwyddodd i Heddlu Afon a Gwlad yr Haf yn Chwefror 2005, lle roedd yn Brif Gwnstabl Cynorthwyol.

Mae gan Ms Roberts Radd Baglor mewn Astudiaethau’r Heddlu o Brifysgol Morgannwg a Diploma Ôl-raddedig mewn Troseddeg Gymhwysol o Brifysgol Caergrawnt.

Yn Heddlu Afon a Gwlad yr Haf, hi oedd â’r portffolio Trosedd a Chyfiawnder Troseddol o Chwefror 2005 – Ionawr 2008 a’r Portffolio Gwasanaethau Diogelu o Ionawr 2008 – Medi 2009 yn cynnwys y 10 llinyn gwasanaethau diogelu.

Yn Heddlu Afon a Gwlad yr Haf, roedd gan Ms Roberts hefyd y cyfrifoldeb rhanbarthol dros yr Uned Cudd-wybodaeth Gwrthderfysgaeth, ac roedd yn Gadeirydd y Grŵp Tasgio a Chydlynu Rhanbarthol, Cadeirydd y Grŵp Arfau Saethu Rhanbarthol, Cadeirydd Penaethiaid Rhanbarthol CID, a Chadeirydd y Grŵp Llwybrau Cyffuriau gyda Swyddfeydd y Llywodraeth a phartneriaid eraill. Roedd hefyd yn Ddirprwy Brif Gwnstabl Dros Dro o Ragfyr 2006 - Ebrill 2007.

Yn y De-orllewin, Ms Roberts oedd arweinydd rhanbarthol ACPO ar gyfer Gwrthderfysgaeth (yn arwain y gwaith Galluoedd Gwrthderfysgaeth cychwynnol) a Chyffuriau (yn arwain y rhaglen ‘Street Level Up’ gyda’r Asiantaeth Troseddau Difrifol Trefnedig) yn ogystal â chynrychiolydd cenedlaethol ACPO ar gyfer Grŵp Gweithrediadau’r Prif Swyddogion Tân.

O fewn Heddlu Dyfed-Powys, mae Ms Roberts yn gyfrifol am Wasanaethau Corfforaethol, Newid Sefydliadol, y Cyfryngau a Chysylltiadau Cyhoeddus, Gwasanaethau Cyfreithiol, Adnoddau Dynol, Safonau Proffesiynol a Pherfformio.

Cymerodd Ms Roberts yr awenau oddi ar Mr Andy Edwards fel Dirprwy Brif Gwnstabl pan benodwyd ef yn Ddirprwy Brif Gwnstabl cyntaf y rhaglen cydweithredu Cymru gyfan. Mae penodiad Ms Roberts yn un hanesyddol i Heddlu Dyfed-Powys gan mai hi yw eu Prif Swyddog benywaidd cyntaf.