Dyfed Powys Police | Heddlu Dyfed Powys
Page Content Starts Here

Cyfarwyddwr Cyllid ac Adnoddau

Mr Andrew Bevan

Yn gyfrifydd cymwysedig, dechreuodd Mr Bevan ei yrfa mewn llywodraeth leol cyn ymuno â Dŵr Cymru’n fuan cyn y preifateiddiwyd y diwydiant.

Yn dilyn cyfnod yn gweithio ym Mhrifysgol Abertawe, ymunodd â’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol yn 1989 lle bu’n dal dwy swydd cyfarwyddwr cyllid gan gynnwys un gyda Gwasanaeth Ambiwlans Gorllewin Cymru, lle roedd hefyd yn Ddirprwy Brif Weithredwr.

Ym 1998 ymunodd Mr Bevan â Choleg Gwent fel Dirprwy Brifathro/Prif Weithredwr. Roedd y Coleg ar y pryd yn wynebu argyfwng ariannol, ac mae Mr Bevan yn hoffi meddwl ei fod wedi cyfrannu at lwyddiant y Coleg wrth dyfu’n un o’r colegau mwyaf yng Nghymru a’r trydydd mwyaf yn y DU.

Mae Mr Bevan yn siarad Cymraeg ac wedi byw yn Sir Gaerfyrddin rhan fwyaf ei oes.