Dyfed Powys Police | Heddlu Dyfed Powys
Page Content Starts Here

Rhanbarthol Sir Benfro a Ceredigion

Prif Uwch-arolygydd Dean Richards

Cychwynnodd y Prif Uwch-arolygydd Dean Richards yn ei swydd bresennol fel Comander yr Heddlu dros Sir Benfro ym mis Medi 2007. Mae wedi bod yn heddwas ers 25 mlynedd, ac am y mwyafrif o’r amser hynny bu’n cyflawni dyletswyddau rheng flaen fel swyddog lifrog. Mae wedi gwasanaethu yn Rhanbarth Powys ac mewn adrannau yn y Pencadlys megis Safonau Proffesiynol. Mae hefyd wedi gwasanaethu yn Sir Benfro ar sawl achlysur cyn hyn.

Pan benodwyd ef i’r swydd hon, dywedodd ei fod yn blês iawn i ddychwelyd i’r sir a’i fod yn ei hystyried yn anrhydedd i ddal swydd lle y gall helpu i lywio dyfodol plismona yn Sir Benfro.

Daw’r Prif Uwch-arolygydd o Sir Benfro yn wreiddiol. Cafodd ei eni a’i addysgu yn Hwlffordd, a bydd yn symud ei deulu i Sir Benfro yn y dyfodol agos.