Cysylltiadau Hygyrchedd
Hepgor Gwe-lywio
Hygyrchedd

Heddlu Dyfed-Powys Diogelu Ein Cymuned




Rydych chi yma:
  1. Hafan
  2. Amdanom Ni
  3. Ymgynghori
  4. Ymgyngoriad Allanol 2009/10

Ymgyngoriad Allanol 2009/10 – Crynodeb o’r Canfyddiadau Cychwynnol

Cefndir

Yn ystod misoedd Gorffennaf ac Awst 2009, ymwelodd aelodau o’r Tîm Gwasanaethau Corfforaethol â naw lleoliad ar draws ardal yr Heddlu, i ymgymryd ag ymgynghoriad gydag aelodau o’r cyhoedd. Dewiswyd lleoliadau o fewn ardaloedd siopa poblogaidd ar draws ardal yr heddlu.

Anfonwyd datganiadau i’r wasg at bapurau newydd / gorsafoedd radio lleol i hysbysebu’r digwyddiadau ac i annog pobl i alw draw. Yn y mwyafrif o achosion, defnyddiwyd Gorsafoedd Heddlu Symudol fel canolfan gweledol ar y dydd. Yn ogystal â staff Gwasanaethau Corfforaethol roedd aelodau o’r Timau Plismona Bro ac Awdurdod yr Heddlu’n bresennol.

Roedd yr ymgynghoriad ei hun yn ystyried amrywiaeth o gwestiynau, gyda’r bwriad o ddarganfod: beth yw barn pobl ynghylch gwasanaethau plismona a lefelau trosedd yn eu hardal, sut mae eu barn wedi newid o’r flwyddyn flaenorol a beth roedden nhw’n teimlo y dylid gosod yn flaenoriaethau plismona ar gyfer 2010/11.

Crynodeb o Ddata Lefel Uwch

Dadansoddwyd pob cwestiwn yn ôl y nifer o rai’n ateb yr arolwg, sylwer fod y rhai’n ateb wedi dethol y cwestiynau roeddynt yn eu hateb ac felly ni fydd y canrannau bob amser yn creu cyfanswm o gant y cant.

Cwblhaodd 1,361 o bobl a oedd yn byw yn ardal yr heddlu’r arolwg, sy’n gynnydd o 65% o gymharu â’r 825 o breswylwyr a gwblhaodd yr arolwg y llynedd.

Yn eich barn chi, sut mae'r lefelau troseddu yn eich ardal chi wedi newid yn ystod y 12 mis diwethaf?

Nododd y mwyafrif (49%) bod y lefelau trosedd yn dal yr un peth; mae hyn ychydig yn uwch na ffigur llynedd o 46%.

Roedd 31% o’r rhai’n ateb yn teimlo bod mwy o drosedd, ac roedd 18% yn nodi bod llai o drosedd yn eu hardal. Mae’r ffigurau hyn yn gyson â ffigurau’r llynedd.

 Yn eich barn chi, sut mae'r lefelau troseddu yn eich ardal chi o'u cymharu â'r cyfartaledd ar gyfer y Deyrnas Unedig?

Nododd y mwyafrif llethol o’r rhai’n ateb (72.5%) bod lefelau trosedd yn is yn eu hardal o gymharu â’r cyfartaledd ar gyfer y DU.

Dim ond 7% oedd yn teimlo ei fod yn uwch ac roedd 17% yn teimlo ei fod yr un peth. Mae’r ffigurau hyn yn gyson â data’r llynedd.

Pa mor ddiogel ydych chi'n teimlo wrth gerdded ar eich pen eich hun yn eich ardal chi gyda'r nos? (Os nad ydych chi byth yn mynd allan ar eich pen eich hun, ceisiwch ddychmygu sut fyddech chi'n teimlo)

Nododd 68% o’r rhai’n ateb eu bod yn teimlo’n ddiogel, nododd 28% nad oeddynt yn teimlo’n ddiogel ac nid oedd y gweddill yn siŵr. Cymharer hyn â data’r llynedd lle nododd 72% eu bod yn teimlo’n ddiogel a 23% yn nodi nad oeddynt yn teimlo’n ddiogel.

Faint o broblem yw'r canlynol yn eich ardal leol chi?

Rhoddwyd rhestr o broblemau i’r rhai’n ateb ddewis ohonynt. Nodwyd mai pobl yn defnyddio neu'n delio mewn cyffuriau a phobl yn ymddwyn yn feddw neu'n swnllyd mewn mannau cyhoeddus oedd y materion yr oedd y mwyafrif o bobl yn teimlo a oedd yn broblem yn eu hardal. Y materion hyn a nodwyd fel y ddwy broblem fwyaf yn 2008/09 hefyd.

Pa ddau faes fyddech yn hoffi gweld Heddlu Dyfed-Powys yn eu blaenoriaethu?

Dengys adborth o 2009/10 mai’r pryderon mwyaf cyffredin a nodwyd gan breswylwyr pan ofynnwyd iddynt nodi beth fyddent yn hoffi gweld Heddlu Dyfed-Powys yn eu blaenoriaethu oedd ymddygiad gwrthgymdeithasol a chyffuriau. Roedd hyn yr union yr un fath ar gyfer 2008/09.

Yn yr ardal lle rydych chi'n byw, beth yw'r prif bethau sy'n eich poeni neu sy'n achos pryder i chi?

Mae angen gwaith pellach i ddadansoddi’r ymatebion i’r cwestiwn ansoddol hwn. Bydd y data ar gael yn yr adroddiad llawn a fydd yn dilyn y crynodeb hwn.

Gan feddwl am eich ateb i’r cwestiwn uchod, pa mor hyderus ydych chi fod y pethau hyn yn cael eu datrys?

Yn ddiddorol, dim ond 38% o’r rhai’n ateb a nododd eu bod yn hyderus bod yr heddlu’n ymdrin â’r prif bethau oedd yn eu poeni.  Nododd 47% nad oedd oeddynt yn hyderus. Ni wnaeth 15% ateb y cwestiwn hwn.

A ydych chi'n adnabod rhai o'r Swyddogion Cefnogi Cymuned sy'n gweithio yn eich ardal chi?

Nododd 63% o’r rhai’n ateb yn 2009/10 eu bod yn adnabod swyddog naill ai wrth ei (h)enw neu wrth ei g/weld. Mae’r ffigwr hwn wedi cynyddu o 54% yn 2008/09.

I ba raddau ydych chi'n cytuno neu'n anghytuno â'r datganiadau canlynol am yr Heddlu yn yr ardal hon?

Ceir isod ddetholiad o’r atebion a gafwyd i’r cwestiwn uchod:

Mae'r heddlu a'r cyngor lleol yn ymdrin â materion ymddygiad gwrthgymdeithasol a throsedd yn yr ardal hon – cytunodd 51% â’r gosodiad hwn, nid oedd 28% yn cytuno nac yn anghytuno ac roedd 13% anghytuno.

Mae'r heddlu a'r cyngor lleol yn ceisio barn pobl ynghylch materion ymddygiad gwrthgymdeithasol a throsedd sydd o bwys yn yr ardal hon – cytunodd 48% â’r gosodiad hwn, nid oedd 29% yn cytuno nac yn anghytuno ac roedd 16% anghytuno.

 ‘Gan gymryd popeth i ystyriaeth, sut fyddech chi'n disgrifio perfformiad yr Heddlu yn eich ardal leol chi?’

Yn 2009/10 nododd 62% o’r rhai’n ateb bod yr heddlu yn eu hardal yn gwneud gwaith ardderchog neu dda. Y mae hyn i lawr ychydig o ffigur 64% y llynedd.
Yn 2009/10 nododd 27% o’r rhai’n ateb bod yr heddlu yn eu hardal yn gwneud gwaith gweddol. Y mae hyn i fyny ychydig o ffigur 22% y llynedd.

Yn 2009/10 nododd 8.5% o’r rhai’n ateb bod yr heddlu yn eu hardal yn gwneud gwaith gwael. Y mae hyn i lawr o ffigur 9.3% y llynedd.

Archif

29/07/10 8:27