Cydraddoldeb ac Amrywiaeth
Mae Heddlu Dyfed-Powys wedi ymrwymo i sicrhau fod pob un person sy’n byw, gweithio neu’n ymweld ag ardal Dyfed-Powys yn derbyn gwasanaeth teg, sy’n cwrdd â’u hanghenion penodol ac nad yw’n gwahaniaethu ar sail eu cenedligrwydd, hil, lliw eu croen, ethnigrwydd, crefydd na’u tueddiadau rhywiol.
Rydym yn cydweithio â chymunedau lleol i geisio dileu digwyddiadau sy’n deillio o anoddefgarwch tuag at amrywiaeth ac sy’n arwain at droseddau casineb.
Cynllun Cydraddoldeb Sengl
Argraffwyd Cynllun Cydraddoldeb Sengl Heddlu Dyfed-Powys yn mis Ebrill, 2009. Prif nod y Cynllun yw dwyn ynghyd mewn un ddogfen bob peth y bwriadwn ei wneud dros y tair blynedd nesaf i sicrhau bod ein staff, ac yn wir y cymunedau a wasanaethwn, yn cael eu trin yn deg ac yn unol â’u hanghenion.
Grwpiau Cydraddoldeb Cyflwyno Gwasanaeth
Mae’n ofynnol i bob un o’r pedair sir o fewn ardal Dyfed-Powys sefydlu Grŵp Cydraddoldeb Cyflwyno Gwasanaeth. Trefnir y grwpiau hyn gan yr Heddlu sy’n chwilio am gynrychiolwyr o’r grwpiau isod:
- Pobl ifanc - 16 i 25 oed
- Pobl oedrannus
- Pobl ag anableddau
- Pobl hoyw, lesbiaid, deurywiol a phobl drawsrywiol

- Pobl o leiafrifoedd ethnig
Pwrpas y fforymau hyn yw sicrhau fod yr Heddlu yn clywed wrth y grwpiau hynny yn y gymuned sydd fel arfer yn cael eu tangynrychioli. Maent hefyd yn gyfle i drafod anghenion a datrys pryderon y gymuned.
Asiantaethau eraill a all eich helpu:
- Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol (Cymru)
http://www.equalityhumanrights.com
02920 447710 - Canolfan Amrywiaeth Ddiwylliannol Powys
01639 844219
Hafan