Addewid Plismona
Bydd Gwasanaeth yr Heddlu yng Nghymru a Lloegr yn cefnogi dinasyddion sy’n parchu’r gyfraith, a byddant yn erlid troseddwyr yn ddi-baid er mwyn eich diogelu chi, a diogelu’ch cymdogaethau rhag niwed.
Byddwn :
- Yn eich trin yn deg a chydag urddas a pharch ar bob achlysur, gan sicrhau bod gennych fynediad teg i’n gwasanaethau ar amserau rhesymol sy’n addas i chi.
- Yn rhoi gwybodaeth i chi am y bobl yn eich Tîm Plismona Bro, am leoliad eu swyddfa, sut i gysylltu â nhw, a sut i weithio gyda nhw.
- Yn sicrhau bod eich Tîm Plismona Bro a phatrolau eraill yr heddlu i’w gweld yn eich milltir sgwâr ar yr adegau pan fyddant yn gallu cael yr effaith fwyaf, ac ar yr amseroedd pan fydd eu hangen arnoch fwyaf. Byddwn yn sicrhau na chaiff eich tîm ei dynnu o’u gwaith yn eich cymdogaeth yn fwy nag sy’n hollol angenrheidiol. Byddant yn treulio o leiaf 80% o’u hamser yn mynd i’r afael, mewn ffordd weledol, â’ch blaenoriaethau chi yn eich cymdogaeth chi. Byddwn yn cyfyngu cymaint â phosibl ar nifer y newidiadau i’n staff.
- Yn ymateb i bob neges a anfonir at eich Tîm Plismona Bro o fewn 24 awr, a lle bo angen, byddwn yn rhoi ymateb mwy manwl cyn gynted ag y gallwn.
- Yn ceisio ateb galwadau 999 o fewn 10 eiliad, a mynd ar unwaith i achosion brys, gan roi syniad i chi o ba bryd y byddwn ni’n cyrraedd, gan eich cyrraedd chi’n ddiogel ac mor gyflym â phosibl. Mewn ardaloedd trefol, byddwn yn ceisio’ch cyrraedd mewn 15 munud, ac mewn 20 munud mewn ardaloedd gwledig.
- Yn ateb pob galwad, sydd heb fod yn alwad frys, yn
brydlon. Os bydd angen i swyddog fod yn bresennol,
byddwn yn anfon patrôl, gan roi syniad i chi o ba
bryd y byddwn yn cyrraedd, ac:
- Os ydych chi’n agored i niwed, neu os ydych chi’n gofidio, byddwn yn ceisio’ch cyrraedd o fewn 60 munud.
- Os ydych chi’n galw ynghylch mater rydyn ni, a’ch cymuned, wedi cytuno sy’n flaenoriaeth gymunedol (rhestr isod), ac os bydd angen inni fod yno, byddwn yn ceisio bod gyda chi mewn 60 munud.
- Fel arall, ac os yw’n briodol, byddwn yn gwneud apwyntiad i’ch gweld chi o fewn 48 awr, ar adeg sy’n gyfleus i chi.
- Os cytunir nad oes angen inni fod yn bresennol, byddwn yn rhoi cyngor i chi, yn ateb eich cwestiynau, a / neu’ch rhoi chi mewn cysylltiad â rhywun sy’n gallu helpu.
- Yn trefnu cyfarfodydd cyhoeddus rheolaidd, ac o leiaf unwaith y mis, er mwyn cytuno ar eich blaenoriaethau, gan roi cyfle i chi, ac aelodau eraill eich cymuned, gwrdd â’ch tîm lleol. Bydd hyn yn cynnwys cyfleoedd fel cymorthfeydd, sesiynau cyfnewid gwybodaeth ar y stryd, ac ymweliadau gan orsafoedd symudol yr heddlu, a drefnir i ateb gofynion a galwadau lleol.
- Yn rhoi adroddiadau misol am y sefyllfa ddiweddaraf o ran cynnydd, troseddu lleol a materion plismona. Bydd hyn yn cynnwys darparu mapiau o droseddau, gwybodaeth am droseddau penodol a beth a ddigwyddodd i’r rheiny y daethpwyd â nhw gerbron y llysoedd, manylion am y camau y byddwn ni a’n partneriaid yn eu cymryd i wneud eich cymuned yn fwy diogel, a gwybodaeth am berfformiad eich heddlu.
- Yn dod i gytundeb â chi, os ydych chi wedi dioddef trosedd, ynghylch pa mor aml yr hoffech inni eich hysbysu chi ynghylch unrhyw ddatblygiadau yn eich achos, ac am ba hyd yr hoffech inni gadw mewn cysylltiad â chi. Mae gennych hawl i gael eich hysbysu o leiaf unwaith y mis, ac am unrhyw gyfnod rhesymol, os dyna’ch dymuniad.
- Yn cydnabod unrhyw anfodlonrwydd gyda’r gwasanaeth y byddwch wedi hysbysu ni amdano, o fewn 24 awr inni ddod i wybod amdano. Er mwyn ein helpu i ddatrys y mater yn llawn, byddwn yn trafod gyda chi sut y caiff y mater ei drin, rhoi cyfle ichi siarad yn bersonol â rhywun ynghylch eich pryderon, a dod i gytundeb â chi ynghylch beth a wneir i leddfu’ch pryderon, a pha mor gyflym y bydd hyn yn digwydd.
Rydyn ni am wneud ein gorau drosoch chi, ond os na allwn gyflawni’n Haddewid i chi, byddwn wastad yn esbonio pam nad oedden ni’n gallu darparu’r safonau uchel y byddwn ni’n anelu atynt, ac y byddwch chi’n eu haeddu, ar yr achlysur dan sylw.
Os hoffech dderbyn copi o’r Addewid Plismona mewn Braille neu mewn unrhyw iaith heblaw’r Gymraeg neu’r Saesneg, cysylltwch â’r adran Gwasanaethau Corfforaethol ar 01267 226631 neu drwy e-bost. Mae’r ieithoedd eraill sydd ar gael yn cynnwys Pwyleg, Gwjarati, Pwnjabeg, Swmalieg, Wrdw, Bengaleg, Tsieinëeg - Mandarin, Hindi, Arabeg, Rwmaneg, Cwrdeg - Sorani, a Slofacaidd.
Gweler Hefyd
HMIC: Delivering the Policing Pledge – Early Findings
Lawrlwytho
Rhaid bod gennych feddalwedd Adobe Reader i weld neu i lawrlwytho ffeiliau PDF. Gellir lawrlwytho Adobe Reader yn rhad ac am ddim o Adobe.
Hafan