Page Content Starts Here
Cyngor a Chefnogaeth
Mae’r adran cyngor a chefnogaeth yn ceisio ateb unrhyw gwestiynau y gallai fod gennych am y ffordd rydym ni’n plismona, y gyfraith mewn perthynas â rhai troseddau penodol, a beth allwch chi ei ddisgwyl os byddwch chi’n cael eich hun mewn sefyllfaoedd arbennig.
Mae’n bwysig galw 999 yn syth os:
- oes perygl i fywyd
- bydd rhywun yn ymddwyn neu’n bygwth ymddwyn yn dreisgar
- oes trosedd difrifol (trosedd dreisgar/byrgleriaeth) yn digwydd neu yn debygol o ddigwydd
- ydyw rhywun sydd yn cael ei amau o gyflawni trosedd ddifrifol gerllaw
- oes damwain traffig y ffyrdd wedi digwydd ac mae rhywun neu rywrai wedi cael anaf, neu y mae perygl i ddefnyddwyr eraill y ffyrdd
- oes angen sylw brys ar rywun bregus
Ar gyfer galwadau di-frys i’r Heddlu, deialwch 101. Gall defnyddio 999 ar gyfer galwadau di-frys ein rhwystro rhag ymateb i rywun sydd angen cymorth ar unwaith.
Galwadau di-frys yw rhai lle rydych:
- eisiau riportio trosedd neu ddifrod troseddol nad yw’n digwydd adeg eich galwad
- eisiau riportio mân ddamweiniau traffig y ffyrdd
- eisiau cysylltu â’ch heddwas lleol
- eisiau holi ynghylch eiddo coll neu roi gwybodaeth i’r heddlu
- angen gwybodaeth neu gyngor











