Ymddygiad Gwrthgymdeithasol
Beth yw Ymddygiad Gwrthgymdeithasol?
"…gweithredu mewn modd sydd wedi achosi neu sy’n debygol o achosi dychryn, gofid neu aflonyddu i berson neu bersonau nad ydynt yn byw ar yr un aelwyd”.
Deddf Trosedd ac Anhrefn 1998
Mae’r term ‘ymddygiad gwrthgymdeithasol’ yn cwmpasu ystod eang o weithgareddau sy’n achosi, neu sy’n debygol o achosi dychryn neu aflonyddu i unigolion neu gymunedau cyfain. Gan fod pawb yn wahanol i’w gilydd, amrywio hefyd y mae’u dehongliad o’r hyn y gellir ei ystyried yn wrthgymdeithasol. Mae’r diffiniad o ‘ymddygiad gwrthgymdeithasol’ mor eang fel ei fod yn cynnwys llawer o broblemau gwahanol, sy’n amrywio o furysgrifen a thipio anghyfreithlon i aflonyddu ac anghydfod rhwng cymdogion.
Os yw gweithredoedd person arall yn eich dychryn neu’n aflonyddu arnoch, yna gallech fod yn dioddef ymddygiad gwrthgymdeithasol.
Enghreifftiau o Ymddygiad Gwrthgymdeithasol
Cerbydau gadawedig; Problemau gydag anifeiliaid; Begian; Galwadau ffug i’r gwasanaethau brys; Sŵn gormodol; Cam-drin geiriol; Ymddygiad anystyriol gan gymdogion; Yfed ar y stryd; Anghydfodau sifil; Niwsans cyson; Defnydd amhriodol o gerbyd; Llygru aer
Taclo Ymddygiad Gwrthgymdeithasol
Wrth iddynt daclo ymddygiad gwrthgymdeithasol, mae Heddlu Dyfed-Powys yn gweithio ochr yn ochr ag asiantaethau sy’n bartneriaid i sicrhau na fydd gweithredoedd difeddwl neu faleisus person arall yn effeithio ar ansawdd eich bywyd.












