Dyfed Powys Police | Heddlu Dyfed Powys
Page Content Starts Here

Llinell Gymorth Gwrthderfysgaeth

Anti Terrorist Hotline - 0800 789 3210800 789 321

Ffôn testun i bobl ag anawsterau siarad a chlywed: 0800 032 4539

Gellir hefyd anfon gwybodaeth trwy gyfrwng ffurflen gyfrinachol ar-lein (Saesneg yn unig) Heddlu Llundain.

Pryd i Gysylltu

Mewn argyfwng, ffoniwch 999 bob tro.

Ffoniwch y Llinell Gymorth Gwrthderfysgaeth os ydych yn credu eich bod wedi dod ar draws rhywbeth amheus neu os oes gennych amheuon am ymddygiad rhywun.   

Fe allai eich gwybodaeth chi fod yn werthfawr i ni, hyd yn oed os nad ydych chi’n credu ei fod yn bwysig iawn.  Dilynwch eich greddf a chysylltwch â ni.

Beth fydd yn digwydd pan fyddwch yn cysylltu

Bydd swyddogion arbenigol yn delio â'ch galwad.  Bydd pob galwad a gwybodaeth yn cael eu trin yn hollol gyfrinachol.

Caiff eich gwybodaeth ei dadansoddi a’i hymchwilio cyn penderfynu pa gamau y dylid eu cymryd, os o gwbl.

Arwyddion amheus

Rhaid i derfysgwyr gael rhywle i fyw a rhywle i storio deunydd ac offer. Maent hefyd angen cerbydau.  Fe fydd pobl gerllaw i'w helpu, ac mae'n bosib y gwelwch y rheiny'n mynd a dod ar amserau anghyffredin o'r dydd a'r nos.  Efallai y byddant yn gwneud deliadau ariannol anarferol neu’n defnyddio dogfennau ffug.  Mae’n bosib hefyd y byddant yn dechrau ymddwyn yn wahanol i’r arfer.

Dyma rai enghreifftiau o weithgareddau amheus:

  • Gweithgareddau anarferol mewn adeilad neu bobl yn mynd a dod ar adegau anghyffredin
  • Cymryd lluniau neu nodi trefniadau diogelwch
  • Defnyddio nifer o ffonau symudol, cyfnewid cardiau SIM a setiau llaw, neu unigolyn â nifer fawr o ffonau symudol
  • Os ydych yn gwerthu neu'n llogi ceir, cwsmer neu amgylchiadau amheus
  • Dogfennau dan wahanol enw heb reswm derbyniol
  • Prynu cyflenwad mawr o gemegau heb reswm dilys
  • Dod ar draws offer gwarchod, megis gogls neu fygydau, wedi eu gwaredu
  • Deliadau cerdyn credyd amheus
  • Ymweld â gwefannau sy'n gysylltiedig â therfysgaeth
  • Diffyg pendantrwydd ynglŷn â threfniadau teithio
  • Amheuon am unrhyw un sy’n rhentu adeilad masnachol, neu’n defnyddio uned dan glo, garej neu sied fel storfa