Dyfed Powys Police | Heddlu Dyfed Powys
Page Content Starts Here

Busnesau

Mae diogelwch ac atal trosedd yn hanfodol beth bynnag yw
maint neu natur eich busnes.

Lladron siawns sy’n cyflawni’r mwyafrif o droseddau yn erbyn
busnesau.  Maent yn dewis eiddo lle
nad oes mesurau diogelwch amlwg neu lle gallant weithredu heb gael eu
gweld.    Ac os yw lleidr yn llwyddiannus unwaith,
mae’n bosib y daw yn ôl yr eildro.

I atal troseddau busnes, dylid ystyried y canlynol: 

  • Rhwystro lladrad
  • Cadw staff yn ddiogel
  • Diogelu eich eiddo
  • Diogelu eich stoc a’ch arian
  • Atal twyll
  • Taclo ymddygiad gwrthgymdeithasol

Atal Trosedd Busnes

Atal Troseddau yn erbyn Busnesau Cymru
- canllaw gan Gynulliad Cymru sy’n cynnwys pynciau megis riportio
trosedd, parhad busnes, twyll, trais yn y gweithle a dwyn gan
weithwyr.