Troseddau Casineb
Beth yw Trosedd Casineb?
Troseddau yw'r rhain sy’n cael eu cyflawni yn erbyn pobl oherwydd pwy ydynt - fel arfer am eu bod yn perthyn i leiafrif ethnig neu grefyddol neu oherwydd eu rhywioldeb.
Mae troseddau casineb yn cwmpasu amrediad eang o ymddygiad, er enghraifft, cam-drin geiriol, graffiti hiliol neu homoffobig neu ymosodiad corfforol. Mae troseddau yn cael eu dosbarthu fel troseddau casineb os yw’r dioddefydd neu dyst yn eu hystyried felly.
Os ydych chi wedi dioddef troseddau casineb - nid eich bai chi oedd e’. Pwy bynnag ydych chi - mae gennych yr hawl i fyw eich bywyd yn rhydd rhag camdriniaeth a thrais. Does dim rhaid i chi oddef troseddau casineb.
Mae Troseddau Casineb yn cael effaith ddifrifol ar ein cymdeithas. Mae’n effeithio nid yn unig ar yr unigolion a ddioddefodd yr ymosodiad, ond hefyd ar eu teuluoedd a’u ffrindiau ac ar unrhyw un arall a fu’n dyst i’r drosedd. Mae llawer o aelodau o grwpiau lleiafrifol yn dioddef y troseddau hyn sy’n gallu amrywio o gam-drin geiriol i gam-drin systematig ac o bosibl, llofruddiaeth, dim ond oherwydd eu bod yn wahanol i bobl eraill. Yn anffodus mae troseddau casineb yn parhau i beidio â chael eu riportio yma yng Nghymru ac ar draws y DU.
Riportio Troseddau Casineb
Mae troseddau casineb yn achosi poen, dryswch ac ofn. Trwy eu riportio, gallwch stopio’r troseddau hyn rhag digwydd i chi ac i eraill.
Mae’r ffurflen riportio troseddau casineb yn eich galluogi chi i riportio troseddau casineb i drydydd parti annibynnol.
Chi fydd yn dewis a fydd eich wybodaeth yn cael ei phasio ymlaen i’r heddlu neu i grwpiau cefnogi eraill.
Peidiwch â dioddef yn dawel - riportiwch ef a gwnewch wahaniaeth i’ch bywyd.
Gweld yn Glir
Mae gwasanaeth yr heddlu wedi lansio gwefan newydd ar gyfer dioddefwyr troseddau casineb, sy’n cynnwys ffurflen riportio ar-lein. Cefnogir y wefan, a elwir yn ‘Gweld yn Glir’ gan bob heddlu yng Nghymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon. Cyfeiriad y wefan yw www.report-it.org.uk
Mae True Vision yn rhoi gwybodaeth i ddioddefwyr a’r cyhoedd am beth yn union yw trosedd casineb, pam ei bod yn bwysig ei riportio pan mae’n digwydd, ac yn nodi’r dulliau gwahanol sydd ar gael er mwyn riportio troseddau casineb, gan gynnwys ffurflen ar-lein newydd. Mae’r safle hefyd yn cynnwys linciau i sefydliadau a allai cynnig cymorth a chyngor ynghylch materion yn ymwneud â throseddau casineb.
Mencap
Gallwch hefyd riportio trosedd drwy Mencap:


