Dyfed Powys Police | Heddlu Dyfed Powys
Page Content Starts Here

Cam-drin yn y Cartref

Beth yw Cam-drin yn y Cartref?

Wales Domestic Abuse Helpline - 0808 8010 800Mae cam-drin yn y cartref yn disgrifio unrhyw fath o drais rhwng dau bartner mewn perthynas agos neu gyn bartneriaid.

Gall y trais gynnwys cam-drin corfforol, rhywiol, emosiynol neu ariannol neu fygythiadau a difrod.

  • Corfforol — taro, cicio, slapio, dyrnu, llosgi, tagu, trywanu, atal person rhag cael cwsg.
  • Rhywiol - trais rhywiol, rhyw neu buteindra gorfodol, pornograffi, neu unrhyw ymddygiad neu weithred rywiol sy’n annerbyniol i’r unigolyn.
  • Meddyliol - cenfigen, bychanu, diraddio, beirniadu di-baid, dirmygu, codi ofn, peidio â chaniatáu i unigolyn weld ffrindiau a theulu, gwrthod rhyw, bygwth neu hunanladdiad.
  • Geiriol — cam-drin geiriol, ymateb yn ymosodol neu fygwth niwed.
  • Ariannol — gwrthod neu atal arian.

Gall Unrhyw un gael ei Gam-drin

Mae cam-drin yn y cartref yn broblem ddifrifol ac eang, ond caiff ei guddio o fewn y teulu yn aml. Mae pobl o bob hil, dosbarth cymdeithasol, crefydd a diwylliant, beth bynnag yw eu hoed, tueddiadau rhywiol, anabledd neu ryw yn gallu dioddef cam-drin yn y cartref.

Bydd 1 o bob 4 menyw ac 1 o bob 6 dyn yn cael eu heffeithio gan gam-drin yn y cartref ar ryw adeg yn eu bywydau. Gall dynion yn ogystal â menywod ddioddef ac mae hefyd yn digwydd mewn partneriaethau un-rhyw.

Mae gan bawb yr hawl i fyw eu bywydau heb ofn, braw a cham-drin, yn enwedig yn eu cartrefi eu hun.

Sut allwn ni Helpu?

Ein prif gonsyrn yw:

  • Diogelu dioddefwyr a phlant a sicrhau nad ydynt mewn perygl parhaus.
  • Ymchwilio’n drwyadl i gael tystiolaeth, ac oes digon o dystiolaeth a bod yr amgylchiadau yn caniatáu hynny, arestio a chyhuddo’r troseddwr.
  • Rhoi digon o wybodaeth i ddioddefwyr fel y bod modd iddynt geisio help, cyngor neu wasanaeth gan asiantaethau eraill - naill ai yn syth neu nes ymlaen.

Mae gennym Swyddogion Cam-drin yn y Cartref penodol sydd yno i roi cefnogaeth a gwybodaeth.

Ffynonellau Eraill sy’n Rhoi Help a Chefnogaeth

Mae gan y mwyafrif o’r gwefannau isod “fotymau diogelwch” sy’n eich tywys yn gyflym i wefan arall.  Am ragor o wybodaeth am bori’r we yn ddiogel, ewch i wefan Cymorth i Fenywod Cymru: Cuddio’ch ôl

  • Llinell Gymorth Cam-drin yn y Cartref - Cymru
    Ffoniwch am ddim ar 0808 08 10 800.  Gwasanaeth cyfrinachol sy’n cynnig gwybodaeth a chefnogaeth, heb fod yn feirniadol.  Mae’r gwasanaeth ar gael yn y Gymraeg a’r Saesneg, a gellir cael mynediad i Linell Iaith sy’n cynnig cymorth gydag ieithoedd eraill, a gwasanaeth Teipsiarad BT ar gyfer galwyr sy’n fyddar neu’n drwm eu clyw.
  • Nid Eich Bai Chi
    Gwasanaeth i blant a phobl ifanc sy’n dioddef cam-drin yn y cartref.  Cyngor a chefnogaeth os ydych chi, neu rywun rydych yn eu hadnabod, yn dioddef camdriniaeth gan riant, plentyn arall, aelod o'r teulu neu gariad.
  • Cymorth i Fenywod Cymru
    Grŵp cenedlaethol sy’n cynrychioli 34 o is-grwpiau ar draws Cymru.  Gwybodaeth a chyngor am faterion perthnasol, gan gynnwys sut y gall y gyfraith eich amddiffyn, sut i ffeindio eich grŵp lleol, a manylion ymgyrchoedd a rhaglen hyfforddi. 
  • Fforwm Cam-drin yn y Cartref Powys
    Cysylltiadau defnyddiol, sut i helpu rhywun, gwybodaeth wedi’i hanelu’n benodol at blant a dynion, a llawer mwy.  Partneriaeth yn cynnwys nifer o sefydliadau yw’r fforwm, a’i nod yw lleihau nifer yr achosion o gam-drin yn y cartref.
  • Tai Hafan
    Cymdeithas Dai elusennol sy’n darparu tai a chefnogaeth i fenywod sydd â gwahanol anghenion.
  • Broken Rainbow
    Broken Rainbow, elusen gofrestredig a gyllidir gan y Swyddfa Gartref, yw unig Linell Gymorth Genedlaethol Cam-drin yn y Cartref y DU ar gyfer lesbiaid, dynion hoyw, pobl ddeurywiol a phobl drawsrywiol. Mae’n darparu cefnogaeth gyfrinachol i bob aelod o’r gymuned Lesbiaidd, Hoyw, Deurywiol a Thrawsrywiol, eu teuluoedd a’u ffrindiau, ac i asiantaethau sy’n eu cefnogi. Cynhelir y llinell gymorth gan bobl Lesbiaidd, Hoyw, Deurywiol a Thrawsrywiol hyfforddedig sy’n deall materion hunaniaeth rywiol ynghyd â’r effaith y gall cam-drin yn y cartref ei gael ar eich bywyd.
  • Cyfeiriadur Cwnsela
    Darganfyddwch gwnselydd yn agos i'ch ardal chi ac yn addas i'ch anghenion. Mae'r Cyfeiriadur Cwnsela'n wasanaeth di-dal a chyfrinachol sydd ond yn rhestru cwnselwyr a seicotherapyddion cymwysedig / cofrestredig.
  • National Stalking Helpline