Dyfed Powys Police | Heddlu Dyfed Powys
Page Content Starts Here

Cyffuriau ac Alcohol: Camddefnyddio Sylweddau

Beth yw maint y broblem?

Amcangyfrifir bod traean o’r holl droseddau sy’n ymwneud ag eiddo
yn gysylltiedig â chyffuriau a bod pobl sy’n gaeth iddynt yn cynhyrchu
£1.5 biliwn trwy droseddu er mwyn prynu eu cyffuriau. Nid yw’n beth
eithriadol i berson â phroblem cyffuriau/alcohol i wario £700 bob
wythnos arnynt.

Beth yw’r ateb?

Ym 1998 cynhyrchodd y llywodraeth strategaeth 10-mlynedd ‘Tackling
Drugs to Build a Better Britain’ er mwyn taclo camddefnydd cyffuriau.
Mae’n cynnwys 4 prif elfen:

  1. Pobl Ifanc – eu helpu i wrthod camddefnyddio cyffuriau er mwyn cyrraedd eu llawn botensial mewn cymdeithas.
  2. Cymunedau – amddiffyn y gymuned rhag ymddygiad troseddol a gwrth-gymdeithasol sy’n gysylltiedig â chyffuriau/alcohol.
  3. Triniaeth – galluogi pobl sydd â phroblemau cyffuriau/alcohol i’w concro a byw bywydau iach yn rhydd o droseddu.
  4. Argaeledd – ceisio lleihau faint o gyffuriau sydd ar ein strydoedd.

Er mwyn gwireddu’r cynllun, mae gan Heddlu Dyfed-Powys bedwar Tîm
Gweithredu ar Gamddefnydd Cyffuriau (SMAT). Mae’r timoedd hyn yn
cynnwys cynrychiolwyr o’r heddlu, y gwasanaethau iechyd, prawf a
chymdeithasol, addysg, y cyngor, Tollau Tramor a Chartref E.M. a’r
gwasanaeth carchardai. Mae Adran Diogelwch y Gymuned Heddlu
Dyfed-Powys mewn cyswllt â’r timoedd hyn i gyd.

Beth mae Heddlu Dyfed-Powys yn ei wneud ynglŷn â chyffuriau?

Mae Adran Diogelwch y Gymuned yn y Pencadlys yn rhan o’r pedwar SMAT – mae un ym mhob sir.

Bu’r adran hon yn help i sefydlu y Cynllun Atgyfeirio adeg
Arestio sy’n rhoi’r cyfle i bobl yn y ddalfa i siarad yn gyfrinachol â
gweithiwr annibynnol, hyfforddedig ym maes camddefnyddio sylweddau a
fydd yn gallu eu helpu a’u cyfeirio ymlaen am driniaeth os yw hynny’n
addas.

Rydym yn gweithio gyda phobl ifainc yn y dosbarth, trwy gyfrwng
swyddogion cyswllt ysgolion lleol a hefyd gydag asiantaethau eraill
trwy sefydlu mentrau a phrosiectau lleol.