Pobl Sy’n Galw yn Eich Cartref yn Ddiwahoddiad ac Ymwelwyr
Os bydddwch yn gwerthu eich cartref, peidiwch â dango pobl o amgylch ar eich pen eich hun. Gofynnwch I’ch asiant tai anfon cynrychiolydd gydag unrhyw un sydd am weld eich tŷ.
Wrth gwrs dylech fod yn hynod ofalus wrth adael pobl i mewn I’ch cartref
os na fyddwch yn eu hadnabod yn arbennig o dda. Os byddwch yn gwneud
hyn, ond yn dechrau teimlo yn anesmwyth neu o dan fygthiad, peidiwch ag oedi cyn gadael eich hun. Gwnewch esgus ac ewch at gymydog neu ffrind a gofynnwch iddynt ddychwelyd gyda chi, neu ffoniwch yr heddlu.
Gwenewch yn siŵr bob amser bod ymwelwyr yn dweud pwy ydynt. Os byddant yn dweud eu bod yn galw ar ran yr heddlu, ycwmni nwy neu drydan, gofynnwch am gael gweld eu cerdyn adnabod. Ffoniwch eu swyddfa leol i gadarnhau hyn. Peidiwch ậ defnyddio rhif ar eu cerdyn nhw ond dewch o hyd I’r rhif yn y llyfr ffôn.
Os ydych yn ddall, yn rhannol ddall, neu os cewch anhawster I symud o amgylch, gallwch drefnu I berson penodol ddod I ddarllen eich mesuryddion ar amser y cytunwyd arno.
Pan fyddant yn galw, bydd y darllenydd mesurydd yn rhoi ei enw neu
gyfrinair y cytunwyd arno. Os byddwch yn poeni, ffoniwch yr heddlu.
Peidiwch â gadael I’r person sy’n galw eich atal rhag gwneud y pethau hyn drwy ddweud ei fod ef neu hi ar frys. Ni fydd galwr go iawn yn poeni ei fod yn gorfod aros y tu allan a’r drws ar gau tra byddwch yn ffonio. Cofiwch adael y gadwyn ddrws ar draws nes I chi fod yn siŵr bod eich galwr yn berson dilys.












