Dyfed Powys Police | Heddlu Dyfed Powys
Page Content Starts Here

Galwadau Ffôn Niwsans

Dylech ateb y ffôn, trwy ddweud ‘helô’ yn unig; peidiwch â rhoi eich rhif. Os bydd y galwr yn dweud bod ganddo/ganddi’r rhif anghywir, gofynnwch iddo/iddi ailadrodd y rhif roeddynt ei angen.

Peidiwch byth â rhoi unrhyw wybodaeth am eich hun i ddieithryn a pheidiwch byth â dweud eich bod ar eich pen eich hun yn y tŷ.

Os cewch alwad ffôn sarhaus neu fygythiol rhowch y derbynnydd i lawr ger y ffôn a cherdded bant. Dewch nôl mewn ychydig funudau a rhoi’r derbynnydd nôl yn y crud, peidiwch â gwrando i weld os yw’r galwr yn dal yno.Peidiwch â dweud dim
- ymateb emosiynol yw’r union beth y mae’r galwr yn gobeithio ei gael.
Trwy ddilyn y camau hyn, mae’r galwr yn cael cyfle i ddweud ei ddweud
heb achosi poen i chi.

Os bydd y galwadau yn parhau, dywedwch wrth yr heddlu a’r gweithredydd ffôn a chedwch gofnod o ddyddiad, amser a chynnwys pob un galwad. Fe all hynny helpu’r awdurdodau i olrhain y galwr.