Ffeithiau a Mythau ynghylch Trais
Beth yw trais ac ymosodiad rhyw?
Mae trais ac ymosodiad rhyw yn cynnwys nifer o droseddau, o gyffwrdd yn rhywiol i ryw treiddiol, sy’n digwydd heb gydsyniad.
Gall trais ac ymosodiad rhyw ddigwydd i fenywod a dynion o bob oed a rhywioldeb.
Gall bobl drawsrywiol hefyd ddioddef trais neu ymosodiad rhyw.
Trais o fewn priodas yw rhyw heb gydsyniad rhwng gŵr a gwraig ac y
mae hwn hefyd yn drosedd. I gael gwybodaeth bellach ynghylch cam-drin
yn y cartref, cliciwch yma.
I weld deddfwriaeth y Ddeddf Troseddau Rhyw ewch at Swyddfa Gwybodaeth y Sector Cyhoeddus: Deddf Troseddau Rhyw 2003
Ymateb Personol
Os ydych wedi dioddef trais neu ymosodiad Rhyw, rydyn ni’n deall y bydd gennych chi nifer o emosiynau a theimladau cymysg.
Mae’n gyffredin iawn teimlo ofn, sioc, trawma, anghrediniaeth,
iselder, hunanymwadiad neu fai, a theimlo’n frwnt ac wedi eich halogi.
Mae’n bosib y byddwch yn meddwl tybed a ddylech fod wedi gwneud neu
beidio â gwneud rhywbeth er mwyn osgoi’r ymosodiad, neu eich bod yn
gyfrifol mewn rhyw ffordd. Efallai nad oes gennych atgof clir o’r hyn
ddigwyddodd. Peidiwch â phoeni.
Mae rhai dioddefwyr, yn enwedig dynion, yn cwestiynu eu rhywioldeb
a’u teimladau eu hunain yn dilyn ymosodiad o’r fath. Gall hyn fod
oherwydd ymateb naturiol y corff i symbyliadau penodol ac nid oherwydd
eu hatyniadau personol. Mae’n arferol i ddioddefwyr brofi’r teimladau
hyn i gyd.
Mae trawma yn effeithio ar bawb mewn gwahanol ffyrdd, does dim
ffordd gywir neu anghywir o deimlo neu ymddwyn yn dilyn achos o drais.
Nid eich bai chi yw trais neu ymosodiad rhyw, boed hynny gan ddieithryn neu rywun rydych yn ei adnabod - byth.
Difa Mythau
Yn y mwyafrif o achosion o drais neu ymosodiad rhyw, nid dieithryn
ond yn hytrach rhywun y mae’r dioddefwyr yn ei adnabod yw’r ymosodwr.
Gall fod yn ffrind, cymar, cydweithiwr, perthynas, cymydog neu rywun
mewn awdurdod.
Nid yw trais rhwyw bob amser yn cynnwys trais corfforol. Mae pobl
yn ymateb yn wahanol i ymosodiad rhyw, efallai y bydd rhai yn sgrechain
ac yn ymladd yn ôl tra y bydd eraill yn mynd yn dawel oherwydd sioc.
Os bydd bygythiad o drais corfforol, efallai y bydd yr unigolyn yn
penderfynu peidio ag ymladd er mwyn osgoi cael niwed. Gall yr ymosodwr
ddefnyddio brawychu geiriol, bygythiadau neu flacmel emosiynol. Efallai
na fydd olion ymladd, fel dillad wedi eu rhwygo yn dilyn hyn. Nid oes
yn rhaid bod gennych chi anafiadau corfforol sy’n profi bod ymosodiad
wedi digwydd er mwyn ei riportio i ni.
Gall defnyddio grym neu bŵer i fychanu, rheoli, niweidio neu
halogi fod wrth wraidd drais ac ymosodiad rhyw, a hynny yn hytrach na
chwant neu nwyd. Mae ymddangosiad, statws, oedran, cefndir diwylliannol,
swydd, hanes perthynas blaenorol y dioddefydd i gyd yn amherthnasol -
gall unrhyw un ddioddef trais neu ymosodiad rhyw.












