Dyfed Powys Police | Heddlu Dyfed Powys
Page Content Starts Here

Mynd i’r Llys

Er mwyn eich paratoi i fynd i’r llys byddwch yn derbyn cymorth
Swyddog Gofal Tsytion. Mae Swyddogion Gofal Tystion yn darparu pwynt
cyswllt a chefnogaeth wedi ei theilwra ar gyfer pob tyst er mwyn sicrhau
eu bod yn gallu rhoi eu tystiolaeth orau. Mae’r gefnogaeth wedi ei
theilwra hon wedi ei seilio ar asesiad sy’n cynnwys ystyried pa
gefnogaeth arbenigol y gall fod ei angen arnoch.

Y Gwasanaeth Tystion

Mae gan Lysoedd yr Ynadon a Llysoedd y Goron wasanaeth tystion,
sef gwasanaeth a ddarperir gan Gymorth i Ddioddefwyr. Mae gan rai
llysoedd wasanaeth arbenigol i dystion sy’n blant hefyd.

Mae’n bosib y bydd aelodau o’r Gwasanaeth Tystion yn gallu trefnu
ymweliadau ymgyfarwyddo cyn mynd i’r llys os oes eu hangen, a gallant
esbonio beth allai ddigwydd yn y llys. Fodd bynnag, nid oes hawl
ganddynt drafod manylion yr achos.

Os ydych yn pryderu ac yn gofidio ynghylch mynd i’r llys a rhoi
tystiolaeth, mae’n bosib y bydd aelod o’r Gwasanaeth Tystion yn cael
caniatâd i fynd i mewn i’r llys gyda chi, er mwyn eich cefnogi. Os yw’r
tyst wedi cael cefnogaeth gan asiantaeth arall (e.e. SARC), mae’n
bosib y gall aelod o’r gwasanaeth cefnogi hwnnw hefyd gael caniatad i
fynd i mewn i’r llys gyda’r tyst.

Cynorthwyo dioddefwyr i roi tystiolaeth

Gall rhoi tystiolaeth yn y llys fod yn brofiad arbennig o
drawmatig i ddioddefwyr trais. Yn benodol, gall rhai dioddefwyr ei
chael yn anodd rhoi tystiolaeth yng ngolwg y diffynnydd. Os yw hwn yn
wir yn eich achos chi, gallwn wneud cais i’r llys i chi roi tystiolaeth
mewn ffordd arall er mwyn i chi allu rhoi eich tystiolaeth orau.

‘Mesurau arbennig’ yw’r enw ar y dulliau eraill hyn o roi tystiolaeth ac mae enghreifftiau’n cynnwys:

  • chwarae eich cyfweliad wedi ei recordio i’r llys. Mae hyn yn
    golygu na fyddwch yn gorfod rhoi tystiolaeth ‘fyw’ ynghylch yr hyn a
    ddigwyddodd i chi, ond byddwch yn dal yn gorfod ateb y cwestiynau a
    roddir i chi gan gyfreithiwr y diffynnydd wrth groesholi;
  • rhoi tystiolaeth o’r tu ôl i sgrin yn y llys er mwyn eich rhwystro chi a’r diffynnydd rhag gweld eich gilydd; a
  • rhoi tystiolaeth i ffwrdd o’r llys drwy gysylltiad teledu byw
    er mwyn eich rhwystro rhag gorfod mynd i’r llys. Fyddwch chi ddim yn
    gweld y diffynnydd dros y cysylltiad teledu ond bydd y diffynnydd fel
    arfer yn eich gweld chi ar sgrin deledu.

Gellir hefyd rhoi tystiolaeth mewn preifatrwydd drwy glirio
galeri’r cyhoedd mewn achosion rhyw neu achosion yn cynnwys brawychu.

Mae erlynydd Gwasanaeth Erlyn y Goron yn gyfrifol am wneud cais
i’r llys am unrhyw fesurau arbennig ar ran dioddefwyr a thystion yn
dilyn trafodaeth gyda’r heddlu.

Y llys sy’n penderfynu derbyn neu wrthod ceisiadau am fesurau arbennig mewn achosion trais.

Anhysbysrwydd / Bod yn ddienw

Mae nifer o ddioddefwyr a thystion yn pryderu ynghylch eu
diogelwch ac yn ofni y bydd manylion personol neu wybodaeth amdanynt yn
dod yn wybodaeth gyhoeddus ac yn golygu bod risg pellach iddynt
ddioddef ymosodiad neu aflonyddwch.

Mae gan ddioddefwyr trais a throseddau rhyw difrifol yr hawl
cyfreithiol i fod yn ddienw yn y wasg, hyd yn oed os rhoddwyd eu henw
yn y llys.

A fydd yr achos yn cyrraedd y llys?

Rydyn ni’n gweithio mewn partneriaeth â Gwasanaeth Erlyn y Goron
sydd yn y pen draw’n penderfynu a fydd achos yn cyrraedd y llys. Maen
nhw’n edrych ar ffactorau gwahanol gan gynnwys a oes digon o
dystiolaeth i roi siawns realistig o sicrhau euogfarn.

Yn anffodus, nid yw rhai achosion yn cyrraedd y llys. Mae’n bwysig
cofio nad yw hyn yn golygu nad oes neb yn eich credu. Gall eich STO
drefnu cyfarfod gyda chyfreithiwr adolygol Erlyniad y Goron a fydd yn
esbonio’r rhesymau am hynny..

Cod Ymarfer Dioddefwyr

Mae gan bobl sy’n dioddef trosedd yr hawl i safonau gofynnol o ran
gwasanaeth gan y System Cyfiawnder Troseddol a’r Cod Ymarfer ar gyfer
Dioddefwyr Trosedd.

I gael gwybodaeth bellach ewch at wefan y System Cyfiawnder Troseddol

Dolenni defnyddiol a rhifau ffôn