Trais yn erbyn Dyn
Oherwydd y teimlad y dylai dyn fod yn gryf a pheidio â dangos
emosiwn, mae llawer o ddynion yn dewis peidio â riportio ymosodiad
oherwydd eu bod yn ofni cael eu gwawdio. Mae’n drist iawn, ond mae hyn
hefyd yn atal dynion rhag gofyn am gymorth.
Mae pobl yn fwy parod i dderbyn a deall nawr bod dynion hefyd yn gallu dioddef trais ac ymosodiad rhyw.
Rydyn ni’n hyfforddi pob swyddog yr heddlu ar gyfer y camau
cychwynnol wrth ymdrin â phobl sydd wedi dioddef trais neu ymosodiad
rhyw, ac mae gennym Swyddogion wedi eu Hyfforddi’n Benodol y byddwn yn
galw arnynt i ymdrin â’ch ymosodiad.
Mae’n bwysig cofio bod gofyn am gymorth a chydnabod bod angen cefnogaeth arnoch yn gryfder, nid yn wendid.
I gael gwybodaeth bellach, ewch at wefannau Education Action Challenging Homophobia (EACH) a Llwybrau Newydd












