Archwiliad Meddygol a Chyngor Iechyd
Archwiliad Meddygol
Mae archwiliadau’n cael eu cyflawni gan feddygon sydd wedi eu hyfforddi’n arbennig. Gallant ddigwydd mewn Canolfan Gyfeirio Ymosodiadau Rhyw
(SARC) neu ganolfan feddygol arall. Os oes angen sylw brys ar eich
anafiadau mae’n bosib y bydd yn digwydd mewn ysbyty. Bwriad yr
archwiliad yw ceisio casglu cymaint o dystiolaeth fforensig â phosibl er
mwyn cynorthwyo’r ymchwiliad.
Yn ystod yr archwiliad, mae’n bosibl y bydd angen cymryd nifer o
samplau o amrywiol rannau o’r corff. Bydd y meddyg hefyd yn edrych ar
unrhyw anafiadau ac weithiau’n tynnu llun ohonynt.
Ar ôl yr archwiliad gallwch gael cawod yn y SARC a rhoddir dillad glân a heb eu defnyddio i chi a phethau ymolchi personol.
Gallwch fynd ag oedolyn cefnogol i mewn gyda chi, ond ni all yr
unigolyn hwnnw fod yn dyst posibl. Tyst posibl yw rhywun y byddwch yn
wreiddiol wedi dweud wrtho/i ynghylch yr ymosodiad.
Eich dewis chi yw a fyddwch yn cael yr archwiliad
neu beidio, fyddwn ni ddim yn rhoi pwysau arnoch chi. Byddwn yn ceisio
esbonio pob proses a’r rheswm dros ei gyflawni, ac yn rhoi gwybodaeth i
chi ar bob cam o’r ymchwiliad.
Pryderon iechyd
Gall y meddyg roi cyngor i chi ar brofion beichiogrwydd, atal cenhedlu brys a chlefydau a drosglwyddir yn rhywiol.
Dolenni defnyddiol a rhifau ffôn
Adrannau Damweiniau ac Achosion Brys
- Ysbyty Cyffredinol Gorllewin Cymru, Caerfyrddin (prif rif) - 01267 235151
- Ysbyty Cyffredinol Gorllewin Cymru, Caerfyrddin (derbynfa’r Adran Ddamweiniau) - 01267 266390
- Ysbyty’r Tywysog Philip, Llanelli (8am - 8pm) - 01554 756567
- Ysbyty Dyffryn Aman, Rhydaman - 01269 822226
Glinigau Iechyd Rhyw
Sir Gaerfyrddin- Clinig Stryd yr Afon, Caerfyrddin - 01267 227475
- Clinig Elizabeth Williams, Llanelli - 01554 784701
- Clinig Ffordd y Gogledd, Aberystwyth - 01970 636216
- Ysbyty Cyffredinol y Llwyn Helyg, Hwlffordd - 01437 773883
- Ysbyty De Sir Benfro, Doc Penfro - 01437 773883
- Clinig Meddygaeth Genhedlol-wrinol, Llanfair ym Muallt - 01982 552221
- Clinig Meddygaeth Genhedlol-wrinol, y Drenewydd - 01686 617200
Cyfeiriadur clinigau ar draws y DU gweler Cymdeithas Brydeinig Iechyd Rhyw a HIV a GIG Cymru
Llinell Gymorth Genedlaethol AIDS
- 0800 567123


