Dyfed Powys Police | Heddlu Dyfed Powys
Page Content Starts Here

Riportio Trais neu Ymosodiad Rhyw i’r Heddlu

Os yw’r ymosodiad newydd ddigwydd, os ydych mewn perygl neu os yw eich ymosodwr yn dal yn bresennol, ffoniwch 999. Fel arall, ffoniwch 101. Gallwch chi neu rywun arall riportio’r ymosodiad. Gallwch hefyd riportio wyneb yn wyneb mewn gorsaf heddlu.

Chi sydd i benderfynu a ydych am riportio’r ymosodiad i’r heddlu.
Efallai y bydd o gymorth i chi siarad am y peth gyda rhywun rydych yn
ymddiried ynddo neu â Chanolfan Gyfeirio Ymosodiadau Rhyw i gael cymorth a chefnogaeth neu gallwch ffonio llinell gymorth.

Pan fyddwch yn cysylltu â’r heddlu am y tro cyntaf

Os byddwch yn ffonio, byddwch yn siarad â rhywun yng Nghanolfan
Gyfathrebu’r Heddlu sydd wedi ei hyfforddi i ymdrin â’r math hyn o
ddigwyddiadau.

Byddwn eisiau gwybod eich bod yn ddiogel – dwedwch wrthym ni
ble’r ydych chi er mwyn i ni allu anfon swyddog yr heddlu atoch ar
unwaith.

Beth allwch chi ei wneud i gynorthwyo’r heddlu?

Gan ddibynnu ar ba mor ddiweddar y digwyddodd yr ymosodiad, efallai y byddwn yn gofyn i chi beidio â golchi’r dillad
yr oeddech yn eu gwisgo ar adeg yr ymosodiad, gan gynnwys dillad isaf.
Rhowch nhw mewn bag plastig glân os ydych eisiau eu newid. Byddwn
hefyd yn gofyn i chi beidio â mynd i’r baddon neu i’r gawod na golchi
eich dannedd. Os ydych eisoes wedi gwneud hynny, peidiwch â becso, mae
hyn yn ymateb naturiol yn dilyn ymosodiad o’r fath - jyst rhowch wybod i
ni, efallai y byddwch yn dal yn gallu rhoi samplau. Mae’r ymosodiad yn
dal wedi digwydd ac rydyn ni’n dal eisiau gwybod.

Os ydych wedi siarad â rhywun arall cyn ei riportio, fel ffrind,
llinell gymorth neu rywun yn y Ganolfan Gyfeirio Ymosodiadau Rhyw,
mae’n bwysig iawn eich bod yn rhoi gwybod i ni er mwyn i ni allu sicrhau ymchwiliad cynhwysfawr a phroffesiynol.

Beth sy’n digwydd nesaf?

Rhoddir Swyddog wedi ei Hyfforddi’n Benodol (Specially Trained
Officer  -STO) i chi a fydd yn siarad â chi ac yn eich cynorthwyo drwy
gydol yr ymchwiliad. Bydd eich STO yn eich helpu mewn modd synhwyrol a
phroffesiynol, ac yn brif gysylltydd i chi drwy gydol yr ymchwiliad.
Gallwch ofyn am gael STO gwrywaidd neu fenywaidd.

Mae’n bosib y gofynnir i chi gytuno i archwiliad meddygol er mwyn darparu tystiolaeth.

Bydd eich STO yn sicrhau eich bod yn cael gwybod am gynnydd yr ymchwiliad ac yn eich cefnogi drwy gydol proses y llys.

Os nad ydych chi eisiau riportio’r digwyddiad i’r heddlu

Gallech siarad â rhywun o’r Ganolfan Gyfeirio Ymosodiadau Rhyw a fydd yn gallu eich helpu.