Dyfed Powys Police | Heddlu Dyfed Powys
Page Content Starts Here

Canolfan Gyfeirio Ymosodiadau Rhyw

Mae Llwybrau Newydd yn darparu cymorth arbenigol i ddynion, menywod a
phlant sydd wedi eu heffeithio gan drais neu gamdriniaeth rywiol, a
nhw yw’r sefydliad cyntaf yng Nghymru i ddatblygu Canolfan Gyfeirio
Ymosodiadau Rhyw.

Mae’r penderfyniad i riportio trais yn aml yn un anodd. Os ydych yn penderfynu nad ydych yn barod i riportio’ch ymosodiad i’r heddlu,
gall Llwybrau Newydd eich cynorthwyo gyda chyngor cyfrinachol. Mae’n
bosibl cael archwiliad meddygol fforensig heb riportio’r ymosodiad i
gychwyn. Bydd hwn yn eich helpu i wneud penderfyniad gwybodus yn
ddiweddarach.

Mae staff y canolfannau’n weithwyr proffesiynol profiadol sydd
wedi eu hyfforddi’n arbennig, a gallant roi cyngor meddygol, cwnsela,
cefnogaeth emosiynol ymarferol, helpu i benderfynu ynghylch riportio’r
drosedd i’r heddlu neu beidio, a chyngor yn gysylltiedig â beichiogrwydd
a chlefydau a drosglwyddir yn rhywiol.

Manylion cyswllt

I gael mwy o wybodaeth ewch at wefan Llwybrau Newydd

  • Caerfyrddin - 01267 235 464
  • Abertawe - 01792 206 885
  • Merthyr - 01685 379 310
  • Rhisga - 01495 233 971