Deiliaid Tai A Defnyddio Grym Yn Erbyn Tresbaswyr
Datganiad Cyhoeddus ar y Cyd rhwng Gwasanaeth Erlyn y Goron a Chymdeithas Prif Swyddogion yr Heddlu
Digwyddiad prin a brawychus yw wynebu tresbaswr yn eich cartref
eich hun. Mae Gwasanaeth Erlyn y Goron (y CPS) a’r Prif Gwnstabliaid
yn ymateb i bryder ymysg y cyhoedd ynghylch cefnogaeth y gyfraith mewn
sefyllfa o’r fath a dryswch ynghylch deiliaid tai yn eu hamddiffyn eu
hunain. Mae arnom eisiau cyfundrefn cyfiawnder troseddol sy’n gwneud
penderfyniadau teg, sy’n ennyn hyder dinasyddion sy’n parchu’r
gyfraith, ac sy’n eu hannog i fynd ati i gefnogi’r heddlu ac erlynwyr
yn y frwydr yn erbyn troseddu.
Ble bynnag y bo modd, fe ddylech chi alw’r heddlu. Mae'r ddogfen
ganlynol yn crynhoi’r sefyllfa pan fyddwch yn wynebu tresbaswr yn eich
cartref, ac mae’n egluro’n gryno sut bydd yr Heddlu a’r CPS yn ymdrin
ag unrhyw ddigwyddiadau o’r fath.


