Dyfed Powys Police | Heddlu Dyfed Powys
Page Content Starts Here

Cerdded a Loncian

Os byddwch yn cerdded adref yn y tywyllwch yn aml, prynwch larwm personal
o siop DIY neu gofynnwch i’ch swyyddog atal troseddau lleol ble y
gallwch brynu un. Cariwch y larwm yn eich llaw fel y gallwch ei
ddefnyddio ar unwaith I goi ofn yr ymosodwr.

Cariwch eich bag yn agos at eich corff gyda’r clasp yn wynebu i mewn. Cariwch allweddi’r tŷ yn eich poced. Os bydd rhywun yn gafael yn eich bag, gadewch iddo fynd. Os byddwch yn dal eich gafael, gallech gael niwed. Cofiwch fod eich diogelwch yn bwysicach na’ch eiddo.

Os credwch fod rhywyn yn eich dilyn, yna ewch i’r lle agosaf ble mae yna bobl eraill
– tafarn neu unrhyyw le gyda llawer o oleuadau – ffoniwch yr heddlu.
Dylech osgoi defnyddio blwch ffÔn caeëdig yn y strryd, oherwydd
gallai’r ymosodwr eich dal y tu mewn iddo.

Os byddwch yn loncian neu’n seiclo’n rheolaidd, ceisiwch amrywio’r daith a’r amser. Cadwch at ffyrdd a phalmentydd syss wedi eu goleuo’n dda.
Ar gomin neu barc, cadwch at y prif lwybrau a mannau agored lle
gallwch weld a lle gall eraill eich gweld chi – ceisiwch osgoi
ardaloedd coediog. Os byddwch yn gwisgo stereo personol, cofiwch na
allwch glywed traffig, neu rywun yn dod tuag atoch o’r tu ôl.

Mwy o gwybodaeth: Suzy Lamplugh Trust

Peidiwch â bodio na chymryd lifft gan ddieighriaid.

Os bydd car yn stopio a’ch bod o dan fygythiad, cofiwch sgrechian
neu weiddi, a chanwch eich larwm personol os oes un gennych. Ceisiwch ddianc cyn gynted ag y medrwch. Bydd hyn yn ennill eiliadau hanfodol I chi ac yn ei gwneud yn fwy anodd I yrrwr y car eich dilyn. Os gallwch, ceisiwch gofio rhif y car a disgrifiad ohono. Nodwch y manylion ar bapur cyn gynted â phosibl wedi hynny.